Henwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Brynach Wyddel
Llinell 3:
Ceir ei hanes yn y triawd "Tri Gwrddfeichiad Ynys Prydain" (Tri bugail moch grymus [[Ynys Prydain]]). Rhoddwyd Henwen yng ngofal [[Coll fab Collfrewi]], [[meichiad]] Dallwyr Dallben (un o gymeriadau llai chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]''). Roedd yr hwch yn feichiog ac roedd [[darogan]] y byddai Ynys Prydain yn waeth allan pe bai'n rhoi genedigaeth. Pan oedd hi ar fin esgor, aeth ar grwydr yng [[Cernyw|Nghernyw]]. Cynulliodd [[Arthur]] ei farchogion ac aeth i geisio ei difa cyn iddi esgor. Mewn lle o'r enw Penrhyn Awstin aeth i'r môr gyda Coll ac Arthur a'r lleill yn ei dilyn.
 
Glaniodd yn ne [[Cymru]]. Ym Maes Gwenith (wrth droed Mynydd Llwyd, [[Gwent]]) esgorodd ar [[gwenith|wenithen]] a [[gwenynen]]. Yn Llonion ([[Llanion]] ger [[Penfro]]?) yn [[Dyfed|Nyfed]] esgorodd ar [[haidd|heidden]] a gwenithen. Yna troes i'r gogledd a chyrhaeddodd [[Eryri]]. Mewn lle o'r enw Rhiw Gyferthwch yn [[Arfon]] (ger [[Beddgelert]] efallai), esgorodd ar genau [[blaidd]] ac [[eryr]]. Rhoddwyd y flaidd ifanc i [[Menwaedd|Fenwaedd]] o [[Arllechwedd]] a'r cyw eryr i un [[Brynach Wyddel]]. Oddi yno aeth Henwen i'r Maen Du yn Llanfair yn Arfon ([[Llanfair-is-gaer]] ar lan [[Afon Menai]], rhwng [[Caernarfon]] a'r [[Felinheli]], efallai) lle esgorodd ar [[cath|gath]]. Mewn ofn, bwriodd Coll fab Collfrewi y gath honno i'r Fenai, ond goroesoedd a thyfodd i fyny i fod yn [[Cath Palug|Gath Palug]], y gath ryfeddol y ceir traddodiadau amdani o [[Ynys Môn|Fôn]] i'r [[Alpau]].
 
==Cefndir==