Elidir Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
enw
Llinell 14:
 
Gellir dringo'r mynydd o ochrau [[Dinorwig (pentref)|Dinorwig]] (ger [[Deiniolen (pentref)|Deiniolen]]), o Waun Gynfi (ger [[Mynydd Llandygái]]) neu o [[Nant Peris]]. Gellir cerdded ar hyd ffordd y gorsaf bŵer o Waun Gynfi i frig Marchlyn Mawr, ac yna esgyn yn syth i'r copa, neu gychwyn ar hen inlclein y Chwarel o Ddinorwig, ac yna croesi Elidir Fach. O Nant Peris mae'r llwybr yn croesi Afon Dudodyn ac yna'n dringo llechwedd serth i'r copa. Gellir hefyd ei ddringo o [[Llyn Ogwen|Lyn Ogwen]], trwy ddilyn y llwybr heibio [[Llyn Idwal]] a dringo i'r grib ger y Twll Du. Yna gellir dringo [[Y Garn]] gyntaf ac yna ymlaen i gopa Elidir Fawr, neu mae llwybr arall yn osgoi copa Y Garn.
 
Yn draddodiadol, enwyd y mynydd ar ôl [[Elidir Mwynfawr]], tywysog o'r [[Hen Ogledd]] a laddwyd yn [[Arfon]].
 
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Eryri]]