Neil Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ganed Neil Jenkins yn [[Gartholwg]], a chwaraeodd rygbi i glybiau [[Clwb Rygbi Pontypridd|Pontypridd]] a [[Clwb Rygbi Caerdydd| Chaerdydd]].
 
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn [[1991]] pan oedd yn 19 oed. Gallai chwarae fel maswr, canolwr neu gefnwr. Aeth ymlaen i ennill 87 o gapiau dros Gymru a sgorio 1049 o bwyntiau, sydd ar hyn o bryd (2005) yn record y byd am bwyntiau rhyngwladol. Aeth heibio'r record flaenorol o 911 a ddelid gan [[Michael Lynagh]] o [[Awstralia]] yn ystod Cwpan y Byd yn 1999 a chyrhaeddodd y nôd o fil o bwyntiau yn erbyn Lloegr yn 2001.
 
Yr oedd Jenkins yn giciwr heb ei ail - yn y tymor 2003/4, llwyddodd i sgorio gyda phob un o 44 cic yn olynol i'r Celtic Warriors, hynny hefyd yn record y byd ar hyn o bryd (2005).
Llinell 10:
 
Ni chafodd le yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol. Yn Hydref 2005 penodwyd ef a [[Robyn McBride]] yn hyfforddwyr sgiliau i helpu chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol yn y bedair academi ranbarthol.
 
 
[[Category:Genedigaethau 1971|Jenkins, Neil]]