Athrawiaeth yr arwyddnodau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Diffiniad
 
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Diffiniad: ffynhonell
Llinell 1:
==Diffiniad==
Triniaeth meddyginiaethol glasurol sy'n honni bod pob planhigyn yn meddu ar ryw nodwedd neu'i gilydd sy'n dynodi pa afiechyd mae'n ei wella (gweler er engraifft [[llygad Ebrill]]. Ymhelaethwyd ar yr athrawiaeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, a'r awdur cyntaf i'w hyrwyddo oedd [[Theophrastus Bombast von Hohenheim]] (1493-1541) a adwaenid fel [[Paracelsus]]. Cafodd yr athrawiaeth groeso mawr ym Mhrydain gan awduron megis William Coles, a gyhoeddodd ei ''Art of Simpling'' ym 1656, a'i gyfrol fwy, ''Adam in Eden'', flwyddyn yn ddiweddarach. Fodd bynnag, roedd awduron megis Dodoens (1517-85) wedi gwrthod yr athrawiaeth cyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, ond parhaodd i gael sylw mewn cyhoeddiadau o'r ddeunawfed ganrif<ref> Roy Vickery, ''A Dictionary of Plant Lore'' (Oxford: Oxford University Press, 1995, tt. 109-10</ref>. Mae'n anodd gwybod i ba raddau y bu erioed yn rhan o gynhysgaeth lafar y werin bobl, ond mae'n ddiddorol nodi i amryw o siaradwyr a fu'n trafod yr anhwylder Clwy'r Marchogion er enghraifft gyfeirio at 'dail peils' yn hytrach na 'llygad Ebrill', ac i nifer ohonynt gyfeirio at siâp y gwreiddiau gan eu cymharu â'r lledewigwst, sy'n awgrymu eu bod yn ymwybodol o'r athrawiaeth, ac wedi clywed neu ddarllen amdani. Mae botanegwyr cyfoes yn credu mai ôl-resymoli a geir yma, er eu bod yn cydnabod ei bod yn anorfod y byddai planhigyn megis llygad Ebrill, y defnyddid ei wreiddiau i drin anhwylder tebyg iawn ei olwg, yn cael ei ystyried yn enghraifft amlwg o athrawiaeth yr arwyddnodau<ref>Meddyginiaethau Gwerin Cymru (2017) Ann Elizabeth Williams. Cyh: Y Lolfa</ref>.