Bardd ar y Bêl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:10, 22 Medi 2017

O Andorra i Lyon, dyma lyfr sy’n dilyn taith gofiadwy tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 drwy eiriau bardd.

Mae'r gyfrol yn dal blas haf hynod 2016 ac yn dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol ar hyd pob cam o'r daith. Gyda lluniau trawiadol gan ffotograffydd swyddogol y Gymdeithas Bel-Droed, mae'r llyfr yn gofnod lliwgar o gamp Chris Coleman a'i dîm.

Meddai Osian Roberts, hyfforddwr y tîm cenedlaethol, yn ei gyflwyniad i'r gyfrol: "Mae’r gyfrol hon yn rhoi cyfnod rhyfeddol yn hanes pêl-droed ar gof a chadw, a hynny ar odl a chynghanedd. Rwy’n gwybod y cewch fodd i fyw yn aildroedio’r lôn i Lyon."

Cafodd y gyfrol ei lansio mewn noson arbennig o dan arweiniad Nic Parry yn Stiwdio Pontio, nos Lun 21 Tachwedd 2016 am 7:30 y.h.

Cyhoeddwyd y llyfr gan Gyhoeddiadau Barddas.