Cynan Dindaethwy ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

tywysog
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:59, 1 Tachwedd 2005

Yr oedd Cynan Dindaethwy ap Rhodri (bu farw 816]] yn frenin Gwynedd.

Yn ôl yr achau, yr oedd Cynan yn fab i Rhodri Molwynog. Bu Rhodri farw yn 754 ac nid oes sôn am Cynan hyd 813, felly awgrymir yn Y Bywgraffiadur Cymreig fod gwall yn yr achau. Daeth Cynan yn frenin Gwynedd ar farwolaeth Caradog ap Meirion, y dywedir ei fod yn gefnder iddo. Bu Cynan yn ymladd a Hywel, ei frawd yn ôl Dr. David Powel, er ei fod yn cael ei alw yn Hywel ap Caradog ambell dro. Yn 814 llwyddodd Hywel i gipio Ynys Môn oddi wrth Cynan. Yn 816 enillodd Cynan yr ynys yn ôl, ond bu farw'r flwyddyn honno.

Mae'n ymddangos mai Castell Dindaethwy oedd y "Dindaethwy" yn ei enw, a chredir mai caer ar fryn ger Plas Cadnant, Porthaethwy ar Ynys Môn ydoedd. Daeth ei ferch Eshyllt yn fam i Merfyn Frych, tad Rhodri Mawr.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)