Cynan Dindaethwy ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yr oedd '''Cynan Dindaethwy ap Rhodri ''' (bu farw [[816]]) yn frenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].
 
Yn ôl yr achau, yr oedd Cynan yn fab i [[Rhodri Molwynog]]. Bu Rhodri farw yn [[754]] ac nid oes sôn am Cynan hyd [[813]], felly awgrymir yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' fod gwall yn yr achau. Daeth Cynan yn frenin Gwynedd ar farwolaeth [[Caradog ap Meirion]], y dywedir ei fod yn gefnder iddo. Bu Cynan yn ymladd a [[Hywel ap Rhodri Molwynog|Hywel]], ei frawd yn ôl Dr. David Powel, er ei fod yn cael ei alw yn Hywel ap Caradog ambell dro. Yn 814 llwyddodd Hywel i gipio [[Ynys Môn]] oddi wrth Cynan. Yn 816 enillodd Cynan yr ynys yn ôl, ond bu farw'r flwyddyn honno.
 
Mae'n ymddangos mai Castell Dindaethwy oedd y "Dindaethwy" yn ei enw, a chredir mai caer ar fryn ger Plas Cadnant, [[Porthaethwy]] ar [[Ynys Môn]] ydoedd. Daeth ei ferch Eshyllt yn fam i [[Merfyn Frych]], tad [[Rhodri Mawr]].