Cadwaladr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

brenin Gwynedd a sant
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:06, 2 Tachwedd 2005

Roedd Cadwaladr ap Cadwallon (c. 633682, teyrnasodd o c. 655) (Lladin: Catuvelladurus), a adnabyddir fel Cadwaladr Fendigaid, yn freinin Gwynedd.

Yr oedd Cadwaladr yn blentyn pan laddwyd ei dad, Cadwallon ap Cadfan, mewn brwydr yn erbyn Oswald o Northumbria. Cipiwyd teyrnas Gwynedd gan Cadafael Cadomedd ap Cynfeddw, a bu raid i Gadwaladr ffoi. Credir iddo fyw yn Iwerddon, Llydaw neu un o'r teyrnasoedd Cymreig eraill. Llwyddon Cadwallon i adennill teyrnas ei dad, ond nid oes gwybodaeth am sut y gwnaeth hyn. Erbyn 658 yr oedd yn ddigon grymus i ymosod ar y Saeson yng Ngwlad yr Haf, ond heb lwyddiant.

Wedi hyn, nid yw'n ymddangos i Gadwaladr arwain byddinoedd tu allan i Wynedd. Yr oedd enw iddo am fod yn frenin duwiol dros ben, a chafodd yr enw "Cadwaladr Fendigaid]]. Sefydlodd nifer o eglwysi yng Ngwynedd, a chredir mai ef yw'r "Cadwaladr" sy'n cael ei goffau yn enw eglwys Llangadwaladr ar Ynys Môn, lle gellir gweld carreg fedd ei daid, Cadfan ap Iago.

Yn ôl yr Annales Cambriae, bu farw o'r pla yn 682. Mae rhai ffynonellau'n awgrymu iddo farw mewn pla cynharach yn 663/664, ond ymddengys hyn yn llai tebygol.

Parhaodd y côf am Cadwaladr yn y Brudiau. Cysylltir baner y Ddraig Goch ag ef, a defnyddiwyd y ddraig goch fel arwydd Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth. gan fod Harri yn hawlio bod yn ddisgynnydd Cadwaladr.