Mangas Coloradas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B typo
Llinell 6:
Yn y 1820au a'r 1830au, prif elyn yr Apache oedd y [[Mecsicanwyr]], a oedd wedi ennill annibyniaeth oddi ar [[Sbaen]] yn 1821. Erbyn 1835 roedd llywodraeth [[Mexico]] yn cynnig gwobrau ariannol am [[sgalp]]au'r Apache: $100 am sgalp dyn, $50 am sgalp merch, a $25 am sgalp plentyn. Ar ôl i Juan José Compas, pennaeth yr Apache Mimbreno, gael ei ladd gan helwyr sgalpau gwyn yn 1837, daeth Mangas yn arweinydd rhyfel a dechreuodd gyfres o gyrchoedd mewn dial ar y Mecsicanwyr.
 
Yn 1846 aeth yr Unol Daleithiau i ryfel a Mexico, a warantiodd Cenedl yr Apache Nation saffgwndid i filwyr yr UD groesi ei thir. Ar ôl i'r UD feddiannu [[New Mexico]] yn 1846, arwyddodd Mangas Coloradas gytundeb heddwch gyda llywodraeth UDA. Ond ansefydlog oedd yr heddwch hwnnw; dechreuodd mewnfudwyr yn ceisio [[aur]] a thir aflonyddu ar yr Apache a bu ymladd rhyngddynt. Yn 1851, ger gwersyll cloddio Pinos Altos, ymosododd y mwyngloddwyr ar Mangas a'i sarhau. Dilynodd cyfres o ddigwyddiadau tebyg ac ymledodd yr ymladd. Yn Rhagfyr 1860 lawnsiodd 30 o fwyngloddwyr ymosodiad sydyn ar wersyllfa Apaches Bedonkohes ar lan [[Afon Mimbres]], gan ladd pedwar a dal 13 o ferched a phlant. Yn fuan ar ôl hynny dechreuodd Mangas ymosod ar yr ymsefydlwyr Americanaidd.
 
Priododd merch Mangas Coloradas, Dos-Teh-Seh, [[Cochise]], prif bennaeth yr apache Chokonen. Yn Chwefror 1861, daliodd yr Is-Gapten George N. Bascom Cochise, ei deulu a sawl rhyfelwr mewn magl trwy dwyll ym [[Bwlch Apache|Mwlch Apache]], [[Arizona]]. Llwyddodd Cochise i ddianc, yn ddramataidd iawn trwy dorri twll yn y babell a'i gyllell a rhedeg gan osgoi sawl bwled, ond daliwyd y lleil. Gelwir hyn y "''Bascom Affair''"; crogwyd brawd Cochise a phump o'r rhyfelwyr gan Bascom. Arweiniodd hynny at gynghrair rhwng Mangas a Cochise i yrru'r Americanwyr allan o wlad yr Apache. Ymunodd [[Juh]] a [[Geronimo]] â nhw. Er na llwyddodd yr Apache, lleihaodd poblogaeth gwyn Arizona a New Mexico yn sylweddol oherwydd yr ymladd a'r [[Rhyfel Cartref America|Rhyfel Cartref]].