Rig Veda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Yn ogystal mae'n un o'r testunau hynaf mewn unrhyw [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|iaith Indo-Ewropeaidd]], er bod arbenigwyr yn anghytuno am ei oed. Mae'r dystiolaeth ieithyddol ac ieithegol yn awgrymu y cafodd y Rig Veda ei gyfansoddi yn ardal y [[Sapta Sindhu]] (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y [[Punjab]] ym [[Pakistan|Mhakistan]] a gogledd-orllewin [[India]], tua 1500–1000 CC (y Cyfnod Vedig Cynnar). Ceir sawl cyfatebiaeth ieithyddol a diwylliannol gyda'r [[Avesta]] [[Iran]]aidd cynnar, cyfatebiaethau sy'n deillio o'r cyfnod Proto-Indo-Iranaidd, a gysylltir gan rai â'r diwylliant [[Andronovo]] o tua 2000 CC.
 
===Cynnwys===
Rhennir y gwaith yn ddeg ''[[mandala]]'' neu adran. Ceir 1017 neu 1028 o emynau, gan ddibynnu ar y casgliad. Mae rhai o'r ''mandalas'' ac emynau hyn yn cael eu priodoli i ddoethion traddodiadol (''[[rishi]]s'') ac eraill yn gysegredig i rai o brif dduwiau'r pantheon Vedig, yn ewnedigenwedig [[Indra]] sy'n lladd ei wrthwynebydd drygionus [[Vrtra]], [[Agni]] (y tâm sanctaidd) a [[Vayu]] neu Vata (y Gwynt). Ceir cryn pwyslais ar ''[[soma]]'' hefyd, yr hylif a phlanhigyn sy'n ganolog i addoliad Vedig. Cyfeirir hefyd at sawl dduw neu dduwies arall fel yr [[Adityas]], [[Mitra-Varuna]], [[Ushas]] (y Wawr), [[Savitri]], [[Vishnu]], [[Rudra]], [[Pushan]], a'r doethwr [[Brihaspati]] neu Brahmanaspati. Duwiolir sawl ffenomen naturiol fel [[Dyaus Pita]] (duw'r Awyr, sy'n cyfateb i [[Zeus|Zeus Pater]] y [[Groeg]]iaid gynt), [[Prithivi]] (Duwies y Ddaear), [[Surya]] (duw'r Haul), Vayu (y gwynt), [[Apas]] (y dyfroedd), [[Parjanya]] (mellt a tharannau), a sawl (yn enwedig y ''Sapta Sindhu'' ac [[Afon Sarasvati]]).
 
Ceir cyfeiriadau at ddigwyddiadau a allai fod yn hanesyddol hefyd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymryson a brwydro rhwng y pobloedd Indo-Ewropeaidd a gyfansoddodd y Vedas (yr Arianiaid Vedig, sy'n perthyn i'r pobloedd [[Indo-Ariaidd]] a'u gelynion, y [[Dasa]] neu Dasyu brodorol.
 
Mae'r Rig Veda ei hun yn perthyn i gasgliad ehangach o destuna a elwir y Veda. Y prif Veda eraill yw'r ''[[Sama Veda]]'', y ''[[Yajur Veda]]'' a'r ''[[Atharva Veda]]''. Yn ogystal ceir testunau sy'n deillio o'r gweithiau hyn neu'n dibynnu arnynt, megis rhai o'r ''[[Brahmana]]s''.
Llinell 16 ⟶ 19:
[[Categori:Llenyddiaeth Hindi]]
[[Categori:Hindŵaeth]]
{{eginyn llenyddiaeth}}
{{eginyn Hindŵaeth}}
 
[[en:Rig Veda]]