Arjuna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Ravi Varma-Arjuna and Subhadra.jpg|250px|bawd|Arjuna a Subhadra yn y Mahabharata]]
Un o [[arwr|arwyr]] yr epig [[Hindŵaeth|Hindŵaidd]] y ''[[Mahabharata]]'' yw '''Arjuna''' ([[Sansgrit]]: अर्जुन, ''arjuna'' "disglair, gwyn, arianaidd", cf. y gair [[Lladin]] ''argentum'' a'r gair [[Cymraeg]] ''arian''). Mae Arjuna yn ffigwr canolog yng nghrefydd yr Hindu ac yn cael ei adnabod fel "Y Saethydd Digyffelyb". Fel y trydydd o'r pum brawd [[Pandava]], roedd Arjuna yn fab i [[Kunti]], gwraig gyntaf [[Pandu]], gan y duw [[Indra]]. Mae'n enwog am wasanaethu'r duw [[Krishna]] ac fe'i gelwir weithiau yn 'bedwerydd Krishna' y ''Mahabharata''.
 
Roedd Arjuna (neu Partha) yn saethydd penigamp a chwaraeodd ran ganolog yn yr ymryson rhwng y Pandaviaid a'u gwrthwynebwyr, meibion [[Dhritarashtra]], a adnabyddir fel y [[Kaurava]]aid. I ddechrau, roedd Arjuna yn amharod i gymryd rhan yn y brwydro am y gwyddai y gallai ladd lawer yn rhengoedd y gelyn, a oedd yn cynnwys nifer o'i perthnasau. Ond cafodd ei berswadio gan ei gerbydwr a chyfaill, yr Arglwydd [[Krishna]], i newid ei feddwl. Y ddeialog rhyngddynt - sy'n ymdroi o gwmpas dyletswydd y rhyfelwr, ei ddewrder, natur y bywyd dynol a'r [[enaid]], a rhan y duwiau mewn bywyd - yw pwnc mawr y ''[[Bhagavad Gita]]'', y gerdd athronyddol a defosiynol enwog sydd ei hun yn rhan o gylch mawr y ''Mahabharata''. Bu ganddo ran allweddol hefyd mewn lladd ei arch-elyn [[Karna]], a oedd yn frawd iddo mewn gwirionedd, un o ryfelwyr mwyaf y Kauravaid.