Krishna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Darlunir Krishna fel rheol fel dyn ifanc croen dywyll neu las, neu fel baban, fel bugail gwartheg ifanc yn canu'r ffliwt, fel yn y [[Bhagavata Purana]], neu fel tywysog ifanc sy'n rhoi cyngor athronyddol, e.e. fel cyfaill [[Arjuna]] yn y ''[[Bhagavad Gita]]'' (rhan o'r ''[[Mahabharata]]''). Ei arf yw'r disgws ac mae'n marchogaeth [[Garuda]].
 
Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth Hindwaidd. Er bod y manylion yn amrywio yn ôl dysgeidiaeth y traddodiad, mae rhai elfennau yn ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys ymgnawdoliad dwyfol (''[[avatar]]''), plentyndod a llencyndod fel bugail gwartheg yng nghanol natur, yn aml yng nghwmni merched hardd, a gyrfa fel rhyfelwr [[arwr]]ol ac athro neu gynghorydd. Mae'n enwog am ei garwriaethau niferus ac mae ganoddganddo bedwar cymar, sef y duwiesau [[Radha]], [[Rukmini]], [[Satyabhama]] a [[Janbavati]].
 
Mae addoliad Krishna yn rhan o draddodiad [[Vaishnaviaeth]], sy'n ystyried mai [[Vishnu]] yw'r [[Duw]] Goruchel ac yn addoli ei ''avatars'' cysylltiedig, eu cymharau hwy, a'r seintiau ac athrawon a gysylltir â nhw. Credir fod Krishna yn ymgnawdoliad llawn o'r duw Vishnu ac felly'n un â Vishnu ei hun. Ond mae'r union berthynas rhwng Krishna a Vishnu, fel y mae wedi datblygu dros y canrifoedd, yn gymhleth ac amrywiol, gyda llawer o'i addolwyr yn ei ystyried yn dduw ar wahân, yn Oruchel ynddo ei hun. Mae'r traddodiadau Vaishnavaidd i gyd yn cydnabod fod Krishna yn ''avatar'' o Vishnu; mae eraill yn uniaethu Krishna gyda Vishnu tra bod rhai traddoiadau neilltuol, fel Vaishnavieth Gaudiya, Vallabha Sampradaya a'r Nimbarka Sampradaya, yn gweld Krishna fel y ''svayam bhagavan'', y Duw cysefin a thragwyddol, neu'r Arglwydd ei hun.
 
Nid yw addoliad Krishna a pharch ato yn gyfyngedig i Hindŵaeth. Mae [[Jainiaeth]] yn ei gyfrif yn un o'r Tirthankara. Mae'n ymddangos fel arwr un o chwedlau'r [[Jataka]] mewn [[Bwdhiaeth]]. Mae'r [[Baha'i]] yn ei ystyried yn broffwyd yn llinach [[Abraham]], [[Moses]], [[Iesu]], [[Mohamed]] ac eraill, yn cynnwys y [[Báb]]. Mae'r Gymuned Islamaidd [[Ahmadiyya]] yn ei ystyried yn broffwyd hefyd.
 
===Gweler hefyd===
* [[Rhestr duwiau a duwiesau Hindŵaidd]]
* [[Vaishnaviaeth]]