Bwa (pensaernïaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

strwythur crwm fertigol sy'n rhychwantu gofod ac efallai na fydd yn cynnal llwyth
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|left|Pont Rufeinig yn [[Alcántara, Sbaen.]] '''Bwa''' mewn pensaernïaeth yw'r term a ddefnyddir ar gyfer adeiladwaith sydd yn gallu cy...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:24, 20 Mehefin 2008

Bwa mewn pensaernïaeth yw'r term a ddefnyddir ar gyfer adeiladwaith sydd yn gallu cymeryd pwysau sylweddol uwch ei ben gyda lle gwag oddi tanodd.

Pont Rufeinig yn Alcántara, Sbaen.

Ymddangosodd y bwa am y tro cyntaf yn yr ail fileniwn CC, ym Mesopotamia wedi eu hadeiladu o frics. Adeiladwyd hwy hefyd gan y Babiloniaid, mae Porth Ishtar yn enghraifft enwog. Lledaenodd y wybodaeth i Ewrop a chafodd y bwa ei ddefnyddio gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid.

Roedd y bwa Rhufeinig yn hanner crwn gyda nifer anghydrif o friciau neu feini. Trwy hyn gellir cae; men clo yng nghanol y bwa. Dilynwyd hyn gan ddatblygiad y bwa ar ffurf pig, a ddefnyddid mewn pensaernïaeth Islamaidd ac mewn pensaernïaeth Gothig yn Ewrop. Mae'r math yma o fwa yn gryfach na bwa ar hanner cylch. Y ffurf gyrfaf ar fwa yw'r bwa parabolig; defnyddiwyd y math yma ar fwa gan y pensaer Antoni Gaudí o Gatalonia.