Y Medelwr Ieuanc (cylchgrawn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cyfnodolyn
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cylchgrawn crefyddol Cymraeg misol ar gyfer plant oedd Y Medelwr Ieuanc. Fe'i seiliwyd ar 'The Young Reaper', cyhoeddiad gan Gymdeithas Cyhoeddiadau Bedyd...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:46, 26 Medi 2017

Cylchgrawn crefyddol Cymraeg misol ar gyfer plant oedd Y Medelwr Ieuanc. Fe'i seiliwyd ar 'The Young Reaper', cyhoeddiad gan Gymdeithas Cyhoeddiadau Bedyddwyr America.

Cyhoeddwyd 12 rhifyn yn fisol rhwng Ionawr a Rhagfyr 1871.

Golygwyd y cylchgrawn gan fwrdd yn cynnwys Bedyddwyr blaenllaw yn cynnwys Thomas Price (1820-1888), John Rhys Morgan (Lleurwg, 1822-1900) a John Rufus Williams (1833-1877).

Y Medelwr Ieuanc (cylchgrawn)