Gruffudd ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Erbyn [[1094]] yr oedd Gruffydd yn rhydd. Dywed ei fywgraffiad ei fod mewn gefynnau ym marchnad Caer pan ddaeth Cynwrig Hir ar ymweliad a'r ddinas a'i weld. Gwelodd Cynwrig ei gyfle pan oedd y bwrgeisiaid yn bwyta a chododd Gruffydd ar ei ysgwyddau a'i gario o'r ddinas. Ymosododd Gruffydd ar gestyll y Normaniaid, ac yn 1095 ymosododd Brenin Lloegr, William II ar Wynedd, ond bu raid iddo ddychwelyd heb lwyddo i ddal Gruffydd. Yn 1088 ymunodd Iarll Caer gyda Hugh arall, Iarll Amwythig i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd. Enciliodd Gruffydd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin Norwy, Magnus III, a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol [[Afon Menai]]. Gadawodd y Normaniad yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffydd i gymeryd meddiant.
 
Gyda marwolaeth Iarll Hugh o Gaer yn 1101 gallodd Gruffydd sefydlu ei afael ar Wynedd. Erbyn 1114 yr oedd yn ddigon nerthol i beri i Frenin Lloegr, Henry I, ymosod ar Wynedd gyda thair byddin, un yn cael ei harwain gan Alexander I, brenin yr Alban. Bu raid i Gruffydd ymostwwng i'r brenin a thalu dirwy, ond ni chollodd ddim o'i diroedd.Erbyn tua 1118 yr oedd Gruffydd yn rhy hen i arwain mewn rhyfel ei hun, ond gallodd ei feibion Cadwallon, [[Owain Gwynedd]] ac yn ddiweddarach Cadwaladr ymestyn ffiniau Gwynedd ymhell i'r dwyrain. Yn 1136 enilloeddenillodd Owain a Chadwaladr gyda [[Gruffydd ap Rhys]] tywysog [[Deheubarth]] fuddugoliaeth fawr dros y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr ger [[Aberteifi]] a meddiannu [[Ceredigion]].
 
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
|-
|width="30%" align="center"|'''O'i flaen :<br>'''[[Trahaearn ap Caradog]]
|width="40%" align="center"|'''[[Teyrnas Gwynedd|Brenhinoedd Gwynedd]]'''
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :<br>'''[[Owain Gwynedd]]
|}
 
 
[[en:Gruffydd ap Cynan]]