Hannibal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: hy:Հաննիբալ
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Roedd '''Hannibal''', mab [[Hamilcar Barca]], ([[247 CC]] – c. [[183 CC]]) yn gadfridog a gwladweinydd [[Carthage|Carthaginaidd]] .
 
Bu Hamilcar Barca, tad Hannibal, yn ymladd yn Sbaen, lle enillodd lawer o diriogaethau newydd i Carthago. Pan laddwyd ef mewn brwydr, daeth brawd-yng-nghyfraith Hannibal, [[Hasdrubal. Hardd]], yn arweinydd y fyddin Garthaginaidd yn Sbaen. Pan laddwyd ef yn ([[221 CC]]), cyhoeddodd y fyddin Hannibal yn arweinydd, a chadarnhawyd hyn gan lywodraeth Carthago. Daeth Hannibal yn enwog yn ystod yr [[Ail Ryfel Pwnig]], a ddechreuodd yn [[Sbaen]] yn [[218 CC]]. Penderfynodd Hannibal ymosod ar yr [[Eidal]], ac arweiniodd fyddin oedd yn cynnwys [[Eliffant|eliffantod]] dros yr [[Alpau]] i ogledd yr Eidal. Yn ystod y blynyddoedd nesaf enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, yn arbennig ym mrwydrau [[Brwydr Trebia|Trebia]], [[Brwydr Llyn Trasimene|Trasimene]] a [[Brwydr Cannae|Cannae]]. Mae tactegau Hannibal ym mrwydr Cannae yn parhau i gael eu hastudio heddiw. Lladdwyd rhwng 50,000 a 70,000 o Rufeinwyr yn y frwydr yma, sy’n yn ei gwneud yn un o’r brwydrau un diwrnod mwyaf gwaedlyd a gofnodir.
 
Problem Hannibal oedd nad oedd ganddo’r offer angenrheidiol i gipio dinasoedd caerog. Gobeithiai y byddai’r dinasoedd oedd yn cefnogi Rhufain yn troi i gefnogi Carthago yn dilyn ei lwyddiannau milwrol. Gwireddwyd hyn i raddau; er enghraifft trôdd dinas [[Capua]] at y Carthaginiaid. Yn raddol dysgodd y Rhufeiniaid oddi wrth Hannibal ei hun, a gwnaethant eu gorau i osgoi brwydr yn erbyn prif fyddin Hannibal. Yn [[207 CC]] gorchfygwyd a lladdwyd ei frawd [[Hasdrubal Barca]] pan geisiodd arwain byddin arall i’r Eidal i atgyfnerthu Hannibal..