Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhysllwyd (sgwrs | cyfraniadau)
Rhysllwyd (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 29:
==Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth==
 
Gwlad dlawd ar gyrion 'nerthoedd mawr y Diwygiad Protestannaidd' oedd Cymru heb lawer o'i phobl wedi clywed nac arfer ac athrawiaethau mawr diwygwyr megis [[Martin Luther|Luther]], [[Zwingli]] a [[John Calvin|Chalfin]]. Llais unig oedd un John Penry ac nid tan yr 1630au y daethpwyd i werthfawrogi ei alwad yn fwy cyffredinol. Roedd dylanwad Pabyddiaeth ar Gymru o hyd ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp. Nid oedd gwybodaeth am drefn yr achub, yn ôl credo'r [[Apostol Paul]], [[Credo Nicea]] a'r diwygiwr Calfin – hynny yw Cristnogaeth glasurol hanesyddol, yn wybyddus iawn yng Nghymru. Fodd bynnag fe ymatebodd gwŷr, a adnabuwn fel y Piwritaniaid Cymreig, i'r angen hwn. Y pennaf yn eu phlith oedd [[Walter Cradoc]], [[John Myles]] a [[Vavasor Powell]]. Ac erbyn 1650 rhydd oedd eu cenhadaeth i'w cyd-Gymru a diolch i Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650) roedd gan Gymru hunanlywodraeth, i bob pwrpas, dros ei materion crefyddol. Ond haf bach Mihangel yn unig oedd cyfnod Deddf y Taenu oblegid, fel y dywed Geraint H. Jenkins; 'Nychwyd y delfryd gan naws Seisnig ac estron y Werinlywodraeth' yn ystod yr Oruchafiaeth. Yn dilyn cwymp Llywodraeth y Piwritaniaid a'r Gweriniaethwyr yn 1660 ac ail gipio grym gan y Brenhinwyr a'r Eglwyswyr fe wynebodd Anghydffurfwyr flynyddoedd caled o erlid yn ystod blynyddoedd 'yr Erlid Mawr.' Cadw'n ffyddlon a pharhau i dystio yn wyneb erledigaeth fu hanes yr ymneilltuwyr hyd pasio'r Ddeddf Goddefiad yn 1689. Dyna oedd agor cyfle i'r ymneilltuwyr, unwaith yn rhagor, i ledu eu cenhadaeth a chwyddo rhengoedd heb rwystr nag erlid.
 
==Ymneilltuaeth a thwf y capeli==