Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhysllwyd (sgwrs | cyfraniadau)
Rhysllwyd (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 34:
 
==Ymneilltuaeth a thwf y capeli==
 
Ym 1735, cafodd dyn ifanc o Sir Frycheiniog o’r enw [[Howell Harris]] dröedigaeth mewn gwasanaeth yn eglwys Talgarth. Wedi ei argyhoeddi o wirioneddau’r Efengyl, aeth Harris i’r priffyrdd a’r caeau i’w chyhoeddi. Yn ddiweddarach, daeth tröedigaeth Harris i’w gweld fel man cychwyn y [[Diwygiad Efengylaidd]] yng Nghymru. Er bod Harris a nifer dda o’r pregethwyr efengylaidd eraill yn perthyn i’r Eglwys Sefydledig, cawsant gryn gefnogaeth gan yr Ymneilltuwyr. Gwelwyd dylanwad y Diwygiad nid yn unig ar eglwysi Annibynnol a oedd eisoes yn bodoli cyn i’r Diwygiad ddechrau, ond hefyd wrth i seiadau Methodistaidd bellhau oddi wrth yr Eglwys Sefydledig a throi’n eglwysi Annibynnol newydd. Ynghyd ag egni’r Diwygiad Efengylaidd, daeth diwydrwydd a dyfeisgarwch.
Ar droad y 19eg ganrif, dechreuodd yr Ysgol Sul ennill poblogrwydd. O fewn cenhedlaeth, daeth pob eglwys i drefnu Ysgol Sul, a daeth yn sefydliad dylanwadol. Trodd y werin Gymreig yn werin lafar; galluogwyd hi i fynegi ei meddwl yn glir a huawdl. Ymhen rhai blynyddoedd, daethpwyd i weld arwyddocâd hynny ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth ar gyfer y werin lythrennog hon, ac ymddangosodd llu o gyfnodolion misol, rhai’n enwadol ac eraill yn gydenwadol. Bu hwn hefyd yn gyfnod o genhadu dros y môr. Bu’r Cymry yn arbennig o gefnogol i waith Cymdeithas Genhadol Llundain a sefydlwyd ym 1795, ac y mae cysylltiadau gyda Madagascar, un o feysydd cenhadol cyntaf y Cymry, yn parhau hyd heddiw.
 
Wrth i’r Ymneulltuwyr gynyddu eu gwaith cenhadol, cafwyd datblygiad yn eu diwinyddiaeth. Ers yr 17eg ganrif, yr oedd y mwyafrif o Annibynwyr wedi bod yn Galfiniaid cadarn, yn credu bod achubiaeth yn dod yn llwyr trwy ras Duw. Ond yr oedd eu sêl genhadol yn codi cwestiwn: sut y gellid gwahodd pawb yn ddiwahân i gofleidio Crist fel Gwaredwr tra ar yr un pryd honni nad oedd gan yr unigolyn unrhyw ran yn ei iachawdwriaeth ei hun? Cafwyd dadlau brwd, ac eto, nid oedd trwych yr Ymneulltuwyr, yr Annibynwyr, Y Bedyddwyr na'r Methodistiaid Calfinaidd wrth reswm yn barod i lwyr gofleidio’r gred Arminaidd fod achubiaeth yn gywaith rhwng Duw a’r pechadur, yn enwedig wedi i’r [[Methodistiaid Wesleaidd]], gyda’u diwinyddiaeth lwyr Arminaidd, sefydlu cyfundeb yng Nghymru ym 1800.
 
O ganol yr holl ddiwinydda ar droad y 19eg ganrif, ymddangosodd llwybr canol ar ffurf ‘Calfinyddiaeth Fodern’, neu ‘Sustem Newydd’, Edward Williams o Rotherham. Yn fab i Galfinydd a Weslead, dadleuai Williams fod yr Iawn a dalodd Crist ar y Groes yn ddigonol i bawb ond yn effeithiol i nifer neilltuol. Ar y naill law, dadleuai bod cyfrifoldeb ar bob unigolyn i ymateb i’r Efengyl, ond, ar y llaw arall credai mai Duw yn unig oedd yn haeddu’r clod am yr achubiaeth. Bu Edward Williams yn ddylanwad ar do ifanc o weinidogion yng Nghymru, ac yn eu plith yr oedd John Roberts o Lanbrynmair, David Davies o Bant-teg a Michael Jones o Lanuwchllyn. Erbyn canol y 19eg ganrif, ‘Sustem Newydd’ Edward Williams oedd y prif safbwynt diwinyddol ymhlith Annibynwyr Cymru.
 
Fodd bynnag, y newid mwyaf amlwg a welwyd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oedd y cynnydd aruthrol yn nifer yr eglwysi ledled Cymru. Rhwng 1800 a 1850, amcangyfrifir bod achos newydd wedi ei sefydlu yng Nghymru, ar gyfartaledd, bob pum wythnos. Yn 1775 yr oedd tua 100 o eglwysi Annibynnol yng Nghymru; erbyn 1851, yr oedd 684 ohonynt. Cafwyd cynnydd ar raddfa debyg yn y weinidogaeth, o 46 gweinidog ym 1800, i 319 ym 1851. Gwelwyd cynnydd tebyg ymysg y Methodistiaid Calfinaidd a’r Bedyddwyr. Ni ddylid rhoi’r argraff bod hwn yn gynnydd cyson. Trwy gydol y 19eg ganrif, bu cyfres o ddiwygiadau crefyddol, pob un gyda’i gylch a’i ddylanwad ei hun. Yr oedd arwyddion bod yr Anghydffurfwyr yn datblygu’n garfan ddylanwadol dros ben yng Nghymru.
 
Wrth i nifer yr Ymneulltuwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o’u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai’n cyfateb i’w delfrydau. Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i’w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau llenyddol a grwpiau drama, trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul. Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf yn Aberdâr ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y Tonic Sol-ffa yn allweddol i’r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa.
 
Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y Chwyldro Piwritanaidd, bu’r Ymneilltuwyr yn ymhél â gwleidyddiaeth o’u dyddiau cynnar. Collwyd rhywfaint o’r agwedd wleidyddol honno yn ystod y ddeunawfed ganrif, ond cafwyd adfywiad wrth iddynt fagu hyder yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Dechreuasant ymgyrchu yn erbyn y Deddfau Prawf a Chorfforaethau a’u cadwant yn ddinasyddion eilradd, ac yn erbyn anghyfiawnder y drefn gaethwasiaeth. Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd cyhoeddi’r Llyfrau Gleision ym 1847. Er mai adroddiadau ar addysg yng Nghymru oedd y Llyfrau Gleision, yr oeddent yn cynnwys ensyniadau difrifol ynghylch moesoldeb y Cymry a chafwyd adwaith ffyrnig iddynt o du’r Anghydffurfwyr. Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i’w gwneud yn ‘enwad’ cyfartal â’r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys ‘swyddogol’. I ddechrau, ymunodd Ymneilltuwyr Cymru gyda’u cymdogion yn Lloegr i alw am ddatgysylltu’r Eglwys yn gyfan gwbl, ond wrth iddynt gynyddu eu dylanwad yng Nghymru, sylweddolwyd y byddai gwell gobaith o lwyddiant pe byddent yn canolbwyntio ar ddatgysylltu yng Nghymru yn unig. Ac felly y bu. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd ymdrech gydwybodol yn cael ei gwneud gan Ymneilltuwyr Cymru i ddatgysylltu’r Eglwys yn eu gwlad eu hunain.
 
Er bod yr Anghydffurfwyr yn ail hanner y 19eg ganrif yn fwy dylanwadol nag erioed yng Nghymru, buan yr ymddangosodd sialensiau newydd i’r eglwysi. Yn un peth, ’roedd Cymru yn wynebu cyfnod o newid ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen. I filoedd o Gymry, chwalwyd yr hen ffordd o fyw gan ddiwydiannu a threfoli. Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y Beibl o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth ynglŷn â Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a’r Atgyfodiad.
 
Nid o’r tu allan y daeth pob bygythiad i Ymneulltuaeth yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o’u statws a’u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ‘capelwyr’ a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a’u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai’r diwylliant capelyddol hwn yn troi’n rhwystr i’r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru. <ref>Codwyd, golygwyd ac yn ddyfynedig o http://www.annibynwyr.org/print/hanes.html </ref>
 
==Datgysylltu'r Eglwys Anglicanidd==