Estonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 50:
}}
 
Gwlad yng ngogledd-ddwyrain [[Ewrop]] yw '''Gweriniaeth Estonia''' neu '''Estonia''' ([[Estoneg]]: ''Eesti''). Mae Estonia yn ffinio â [[Latfia]] i'r de, a [[Llyn Peipus]] a [[Rwsia]] i'r dwyrain. Gwahanir y wlad oddi wrth y [[Ffindir]] gan [[Gwlff y Ffindir]] i'r gogledd ac oddi wrth [[Sweden]] gan y [[Môr Baltig]] i'r gorllewin. Un o'r [[Gwledydd Baltig]] yw Estonia, ynghyd â Latfia a [[Lithwania]].
 
[[Delwedd:Kose kirik suvi 2012.jpg|bawd|chwith|Eglwys Kose yn Estonia. Mae'r sylfaeni'n tarddu nôl i 1370, y tŵr yn 1430 a'r pigyn yn 1873.]]
Llinell 56:
Mae Estonia yn aelod o'r [[Undeb Ewropeaidd]] ers 1 Mai 2004 ac o [[Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd]] (SCGI) ers 29 Mawrth 2004.
 
Pobl Ffinnig sy’n perthyn yn agos i'r [[Ffiniaid]] yw'r [[Estoniaid]], a'r iaith [[Estoneg]] yn rhannu llawer o debygrwydd â [[Ffinneg]] a'r [[ieithoedd Sami]], ac yn perthyn o bell i [[Hwngareg]].
 
Credir bod enw modern Estonia yn tarddu o'r hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]], a ddisgrifiodd yn ei lyfr [[Germania]] bobl a alwyd yn ''Aestii''. Yn gyffelyb, mae sagâu hynafol Sgandinafaidd yn cyfeirio at wlad o'r enw ''Eistland''. Mewn ffynonellau Lladinaidd a ffynonellau cynnar eraill, galwyd y wlad yn ''Estia'' neu ''Hestia''.
 
Mae tiriogaeth Estonia yn cynnwys 2,222 o ynysoedd yn y Mor Baltig yn ogystal â'r tir mawr, a chyfanswm ei harwynebedd yn 45,339 cilomedr sgwar (17,505 milltir sgwar).
 
Mae pobl wedi byw yn nhiriogaeth Estonia ers o leiaf 6,500 o flynyddoedd. Dros y canrifoedd, fe'i rheolwyd gan yr Almaenwyr, y Daniaid, y Swediaid a'r Rwsiaid yn eu tro. Bu deffroad cenedlaethol yn Estonia ar ddechrau'r 20fed ganrif ac arweiniodd hynny at sicrhau annbyniaeth oddi ar ymerodraeth Rwsia yn 1918.
 
{{Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd}}