Diocletian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: az:Diokletian [r5544]
trwsio dolen
Llinell 13:
'''Diocletian''' ([[Lladin]]: ''Gaius Aurelius Valerius Diocletianus'') (c. [[245]]– [[3 Rhagfyr]] [[313]]), oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o'r [[20 Tachwedd]] [[284]] hyd [[1 Mai]] [[305]]). Yn ystod ei gyfnod fel ymerawdwr creodd y [[Tetrarchiaeth]].
 
Ganed Diocletian yn [[Dalmatia]] o deulu distadl. Dywed rhai fod ei dad yn gaethwas wedi ei ryddhau, o [[IliriaIllyria]]. Ei enw gwreiddiol oedd Diocles (Διοκλής). Ymunodd a'r fyddin a threuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn ymgyrchoedd parhaus ar ffin [[Afon Donaw]], yng [[Gâl|Ngâl]] ac yn ernyn y [[Persia|Persiaid]]. O dan yr ymerodron [[Aurelian]] a [[Probus]] dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn bennaeth gwarchodlu personol yr ymerawdwr [[Numerian]] yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y [[Parthia|Parthiaid]].
 
Pan laddwyd Numerian, cyhoeddwyd Diocletian yn ymerawdwr gan y milwyr ar 20 Tachwedd 284 yn ninas [[Nicomedia]]. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn cyd-ymerawdwr Numerian, ei frawd [[Carinus]], ac ar ôl ymladd yn [[Moesia]] enillodd Diocletian y fuddugoliaeth. Enwodd gymrawd, [[Maximinus]] fel "Cesar" a'i gyrru i ddelio a gwrthryfel y [[Bagaudae]]. Pan ddychwelodd Maximinus yn llwyddiannus, gwnaeth Diocletian ef yn gyd-ymerawdwr yn [[286]].