Diocletian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
trwsio dolen
B trwsio dolen
Llinell 19:
Daeth Diocletian yn ymerawdwr ar ddiwedd y cyfnod a elwir yn [[argyfwng y drydedd ganrif]]. Yn y cyfnod yma bu 19 o ymerodron mewn cyfnod o 50 mlynedd, llawer ond yn teyrnasu am ychydig fisoedd. Gwnaeth Diocletian newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Ceisiodd adfywio'r economi a rhannodd yr ymerodraeth yn 96 talaith oedd wedi eu rhannu'n 12 rhanbarth [[diocesis]]. Ceisiodd hefyd adfywio hen grefydd Rhufain, a bu llawer o erlid ar y Cristionogion yn ystod ei deurnasiad.
 
Y newid pwysicaf a wnaed gan Diocletian oedd dechrau'r Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau "Augustus", sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", [[Galerius]] a [[Constantius Chlorus]]. Yr oedd Diocletian, fel Augustus y dwyrain, yn gyfrifol am [[Thracia]], [[Asia]] a'r [[Aegyptus|Aifft]]; Galerius yn gyfrifol am y [[Balcanau]] heblaw Thracia, Maximinus fel Augustus y gorllewin yn rheoli [[Italia]], [[Hispania]] ac [[Africa (Talaith Rufeinig)|Affrica]], a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gâl a Phrydain. Yr oedd pob Augustus i fod i ymddeol ar ôl 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Augustus yn eu lle.
 
Ar 1 Mai 305 ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ôl y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol. Yr oedd Diocletian wedi adeiladu palas iddo'i hun yn Spalatum ([[Split]] heddiw) yn Dalmatia. Dywedir ei fod yn ei ddifyrru ei hun ym ystod ei ymddeoliad trwy dyfu bresych. Bu farw yn ei blasdy yn y flwyddyn [[313]].