Cytûn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gethin61 (sgwrs | cyfraniadau)
Cychwyn y dudalen
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:36, 28 Medi 2017

Cytûn[1] (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) yw'r corff ymbarél ar gyfer prif enwadau Cristnogol Cymru.

Hanes

Ffurfiwyd Cytûn yn 1990 yn dilyn Cynhadledd Swanwick yn 1988. Yn y gynhadledd hon fe gytunodd prif eglwysi gwledydd Prydain ac Iwerddon ar y pryd i ffurfio offeryn ecwmenaidd newydd ymhob un o'r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, yr Alban a'r Iwerddon), a hefyd offeryn ar wahân i gwmpasu'r pedair cenedl. Pwysleisiwyd mai 'offeryn' i'r aelod eglwysi gydweithio fyddai'r rhain yn hytrach na 'Chyngor Eglwysig' fyddai'n gallu gweithredu yn ei awdurdod ei hun, fel yr hen Gyngor Eglwysi Cymru (1956-1990). Roedd y newid hwn yn rheidrwydd er mwyn croesawu'r Eglwys Gatholig Rufeinig a hefyd rhai enwadau o'r traddodiad Pentecostaidd yn aelodau.

O'r cychwyn fe fu Cytûn yn gweithio'n arbennig mewn dau faes, sef materion cyhoeddus a chyd-berthynas yr eglwysi eu hunain. Yn yr 21ain ganrif fe ychwanegwyd trydydd maes, sef cyd-lynu presenoldeb yr aelod eglwysi a mudiadau ar feysydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sioe Frenhinol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae Cytûn hefyd yn darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cyngor Rhyng-ffydd Cymru[2], ac yn cyd-lynu cynrychiolaeth yr holl grefyddau ar Fforwm Cymunedau Ffydd Cymru[3] a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

Aelodau

Mae yna 14 o enwadau yn aelodau, sef:

Undeb Bedyddwyr Cymru

Cymanfa Bedyddwyr De Cymru

Yr Eglwys Fethodistaidd

Yr Eglwys yng Nghymru

Yr Eglwys Lutheraidd Almaeneg ei Hiaith

Byddin yr Iachawdwriaeth

Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig

Yr Eglwys Gatholig Rufeinig

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Y Gynghrair Gynulleidfaol

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Eglwys Uniongred yr India (dolen: St Mary's Indian Orthodox Church, Bristol) The Church of Pentecost - UK (adran Caerdydd) Cymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr)

Mae tri enwad arall yn aelodau 'Categori B', hynny yw yn arddel cysylltiad â Cytûn heb ddymuno bod yn aelodau cyflawn:

Eglwys Adfentiaid y Seithfed Dydd yng Nghymru

Eglwys Bresbyteraidd De Korea yng Nghymru (heb wefan)

Eglwys Uniongred Ethiopia

Mae yna nifer o fudiadau Cristnogol eraill sy'n gweithio yng Nghymru hefyd yn aelodau 'Categori B'.

Mae'r enwadau cyflawn yn llywio polisi a gwaith Cytûn yn y meysydd hynny lle maent am gydweithio.

  1. [www.cytun.cymru "Cytun"] Check |url= value (help). Cytun. Cyrchwyd 28/09/2017. Check date values in: |access-date= (help)
  2. "Rhyng-ffydd Cymru". Rhyng-ffydd Cymru. Cyrchwyd 28/09/2017. Check date values in: |access-date= (help)
  3. "Fforwm Cymunedau Ffydd". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 28/09/2017. Check date values in: |access-date= (help)