Dewi Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ListeriaBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Wikidata list updated
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
gwybodlen
Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= spouse | dateformat = dmy }}
[[Delwedd:Jesus Chapel St David.jpg|bawd|Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)]]
[[Delwedd:Flag of Saint David.svg|bawd|Baner Dewi Sant]]
 
'''Dewi Sant''' (bl. [[6g]]; bu farw yn [[589]] yn ôl [[Rhigyfarch]]<ref name="ReferenceA">''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', d.e. Dewi Sant.</ref>) yw [[nawddsant]] [[Cymru]]. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch, [[lleian|leian]] o'r enw [[Non]] oedd ei fam, a dresiwiyd gan Sant, Brenin [[Ceredigion]].<ref>''[[Gwyddoniadur Cymru]]'' tud 288;] Gwasg Prifysgol Cymru; Prif Olygydd: John Davies.</ref> Dethlir [[Dydd Gŵyl Dewi]] yn flynyddol ar [[1 Mawrth]]. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg [[Llyfr Ancr Llanddewibrefi]] ([[Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen]]) ei bregeth olaf, lle dywedodd, ''"Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."''
 
==Hanes a thraddodiad==
[[Delwedd:Flag of Saint David.svg|bawd|chwith|unionsyth|Baner Dewi Sant]]
Yn ôl un traddodiad, cafodd ei eni yn [[Henfynyw]] ger [[Aberaeron]], ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at [[Capel Non|Gapel Non]], gerllaw [[Eglwys Gadeiriol Tyddewi]] heddiw. Ei fam oedd y santes [[Non]] a'i dad oedd Sant (neu [[Sandde]]), brenin Ceredigion.