Economi Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Polisi economaidd
Llinell 50:
===Diweithdra===
[[Delwedd:Cyfraddau diweithdra yng Nghymru.PNG|bawd|330px|Siart bar yn dangos cyfraddau diweithdra yng Nghymru o 1992 i 2002]]
Yn ystod [[Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru|yr ugeinfed ganrif]] bu dau gyfnod o [[diweithdra|ddiweithdra]] sylweddol yng Nghymru. Yn y 1920au cynyddodd diweithdra ymhlith glowyr o 2% yn Ebrill 1924 i 12.5% yn Ionawr 1925 a 28.5% yn Awst 1925, wrth i alw am lo o dramor gostwng wrth i wledydd eraill cynhyrchu glo eu hunain. Gwaethygodd y sefyllfa yn dilyn [[Cwymp Wall Street]] yn 1929, ac erbyn 1932 roedd diweithdra wedi cyrraedd 42.8% ac wedi treiddio nifer o ddiwydiannau eraill. Yn ystod [[y Dirwasgiad Mawr]] byd-eang Cymru oedd un o'r gwledydd a gafodd ei tharo gwaethaf.<ref>{{dyf gwe | url = http://www.bbc.co.uk/cymru/hanescymru/pennod18/ | cyhoeddwr = [[BBC Cymru'r Byd]] | dyddiadcyrchiad = 1 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Hanes Cymru: Y Rhyfel a'r Dirwasgiad }}</ref>
 
Yn ystod prifweinidogaeth [[Margaret Thatcher]] oedd yr ail gyfnod o ddiweithdra eang. Yn ystod y 1970au bu nifer o [[streic]]iau, yn cynnwys gan lowyr, ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig; profodd streic 1972 yn llwyddiannus trwy godi cyflog y glowyr. Ond pan ddaeth [[y Blaid Geidwadol (DU)|y Blaid Geidwadol]] i rym dan Thatcher yn 1979 dechreuwyd polisi o [[preifateiddio|breifateiddio]] diwydiannau. O ganlyniad cafodd nifer o byllau glo, yn enwedig yn y [[Cymoedd De Cymru|Cymoedd]], eu cau; ymunodd glowyr Cymru â [[Streic y Glowyr (1984&ndash;1985)|streic genedlaethol]] a pharhaodd am bron i flwyddyn.<ref>{{dyf gwe | url = http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Llafur/1972/index.htm | dyddiadcyrchiad = 1 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Streiciau'r glowyr yn 1972, 1974 a 1984 | cyhoeddwr = Ymgyrchu! }}</ref> Cynyddodd diweithdra yng Nghymru o 65&nbsp;800 (5%) yn 1979 i uchafbwynt o 166&nbsp;700 (13%) yn 1986.<ref>{{dyf gwe | url = http://new.wales.gov.uk/legacy_en/keypubstatisticsforwales/content/publication/economy/2003/sb53-2003/sb53-2003.htm | dyddiadcyrchiad = 1 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] a'r [[Swyddfa Ystadegau Gwladol]] | iaith = en | teitl = Bwletin Ystadegol: ''Claimant count trends'' | dyddiad = [[29 Mai]], [[2003]] }}</ref>