Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
B ychwanegu llun
Llinell 91:
Hyd at diwedd y 18fed canrif roedd yn rhesymol galw Tywyn yn porthladd <ref name=":1" />gan fod y llanw yn cyraedd y Gwaliau hyd 1809. Roedd cychod bychain yn dod â mewnforion yno. Un o rhain oedd calch a bu nifer o odynau calch ar lan y [[Dysynni. Dysgodd pobl ifanc sut i nofio yn y lli o "geg y ffos" i'r Gwaliau. <ref name=":1" /> Roedd iard adeiladu llongau ger y "Pil Ditych" gyferbyn y safle ble adeiladodd y Presbyteriadd a'u capel cyntaf yn ymyl y Gwaliau. <ref name=":1" /> Mor hwyr a 1886 bu trigolion Tywyn yn cofio llong a elwid y Debora yn cael ei adeiladu ger Rhydygarnedd. <ref name=":1" /> Roedd y corsydd o Pall Mall i'r mor yn tir comin i drigolion Tywyn. Cedwid y werin anifeiliaid a dofednod yno a buont yn hela adar a physgota ond y defnydd pwysicaf oedd torri mawn ar gyfer tanau.<ref name=":1" /> Bu y tir comin yn bwysig hefyd i fel man i gasglu gwartheg a defaid at eu gilydd cyn i'r porthmyn eu gyrru hwy i Loegr. Gwelir dylanwad y porthmyn yn yr enwau Pall Mall, Picadili a'r White Hall gan rhoddodd enwau o derfyn eu taith ar lefydd ar ddechrau eu taith.
 
==== Draenio Corsydd y Dysynni ====[[File:Ffosydd yn Aber y Dysynni.jpg|thumb|Ffosydd yn aber y Dysynni]]
Pan etifeddodd Edward Corbet Ynysymaengwyn yn 1782, dechrauodd draenio y darn o'r corstir oedd yn perthyn i'r ystad. Rhwng 1788 a 1784 newidiodd y gorstir i dir oedd yn cynhyrchu gwair, trwy cloddio ffosydd a thrwy lledu calch. Cedwid y cost yn isel trwy dal i caniatáu i'r werin parhau i torri mawn, cyhyd ag yr oeddent yn torri yn union ble dewisodd ef; i ddyfnder a penodwyd ganddo ef a gan cadw yr ochrau yn syth. Fel hyn bu yn arbed costau talu gweithwyr i agor y ffosydd.<ref name=":4" />
 
[[File: Y Clawdd Swnd.jpg|thumb|chwith|Y Clawdd Swnd]] Yn gynnar yn y 19eg canrif trodd golygon Corbet tuag at y tiroedd comin. Yn 1805 honnodd dyn o'r enwJackson ei fod wedi darganfod glo ym Mron Biban a perswadiodd trigolion y dref i cyfnewid eu hawliau traddodiadol am addewid o lo rhad. Pasiwyd deddf i caniatáu amgáu y tir comin yn 1805. Dechrauodd y gwaith draenio tua 1806. Adeiladwyd "Clawdd Swnd" yn 1809 oedd yn rhwystro'r llanw rhag cyraedd y Gwaliau ac ardal helaith o'r corstir. <ref name=":1" /> Wrth gwrs ni daeth o hyd i unrhyw lo. Honnodd Corbet nid oedd yn gwybod am y twyll ond gwnaeth elw fawr ohono.
 
==== Gweithwyr yn Cydweithredu ====