De facto: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Mae '''''de jure''''' yn ailgyfeirio yma. Gweler hefyd [[De Facto (band)]].''
Term [[Lladin]] sy'n golygu "mewn arfer" (yn llythrennol, "o'r ffaith") ond heb gael ei gydnabod felly yn ôl y [[gyfraith]] yw '''''de facto'''''. Mae'n ymadrodd a ddefnyddir yn aml mewn cyferbyniaeth â therm Ladin arall, '''''de jure''''' (sy'n golygu "yn ôl y gyfraith") wrth gyfeirio at faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith, [[llywodraeth]] neu safonaustatws lawcyfreithiol, sy'n bod oherwydd eu bod wedi eu creu neu ddatblygu felly heb [[deddfwriaeth|ddeddfwriaeth]] i'w cyfreithlonni neu hyd yn oed yn erbyn y gyfraith fel y cyfryw. Mewn cyd-destun cyfreithiol pur, mae ''de jure'' yn golygu yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud, tra bod ''de facto'' yn golygu'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol.
 
Gellir egluro hyn gydag enghreifftiau. Mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, er enghraifft, gelwir llywodraeth tiriogaeth annibynnol sydd wedi torri'n rhydd o wladwriaeth arall ond heb gael ei chydnabod fel llywodraeth yn "llywodraeth ''de facto''" y diriogaeth honno, sydd dal yn perthyn, "''de jure''", i'r llywodraeth gydnabyddedig (mae sefyllfa [[Transnistria]] mewn perthynas â [[Moldofa]] yn enghraifft gyfoes o hyn). Enghraifft arall yw statws [[Saesneg]] yn yr [[Unol Daleithiau]]. Er nad yw'n [[iaith swyddogol]] ''de jure'' — h.y. does 'na ddim byd yn y cyfansoddiad sy'n dweud hynny — yn ymarferol mae hi'n brif iaith neu iaith gyffredin ''de facto'' y wlad honno.