Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ysgol Friars, Bangor"

Ychwanegwyd 25 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
 
[[Delwedd:Friars-ffriddoedd.jpg|bawd|dde|200px|Adeilad Ysgol Friars ar safle Ffriddoedd, ysgol 1900-1999]]
Gyda chyfraniadau gan Gyngor Sir Gaernarfon, gwerthiant yr hen safle yng ngwaelod y ddinas ac apêl gyhoeddus am gyfraniadau, adeiladwyd ysgol newydd ar safle Ffriddoedd am gost o £11,600. Dyluniwyd yr adeilad gan benseiri Douglas & Minishull, ac fe’i adeiladwyd o [[calchfaen|galchfaen]] a [[tywodfaen|thywodfaen]] gan Mri. James Hamilton a’i Fab. Gosodwyd y seiliau gan [[EsgobWatkin BangorHerbert Williams]], Esgob Bangor ar [[12 Ebrill]] [[1899]] ac fe agorwyd yr adeilad newydd ym mis Rhagfyr [[1900]].
 
Wrth symud at Ffriddoedd, y bwriad oedd symud at ardal wledig allan o’r ddinas. Wedi’r haint teiffoid a’r pryder yn gyffredinol am gyflwr afiach dyffryn Adda, roedd ardal Ffriddoedd yn cael ei weld fel amgylchedd mwy iachus i’r ysgol. Ond roedd y ddinas wrthi'n ymestyn tu hwnt i’w ffiniau traddodiadol. Er mwyn gwarchod mymryn o’r amgylchfyd gwledig wrth i weddill yr ardal ddatblygu, ym [[1955]] prynodd Dr. R. L. Archer, a fu unwaith yn Gadeirydd y Llywodraethwyr, llain o dir gyferbyn â'r ysgol a’i roi i’r ysgol gyda’r bwriad y cedwir y tir hwn, "Llain Dr. Archer", yn fytholwyrdd.
889

golygiad