Lebensraum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Gair Almaeneg a fu'n rhan o eirfa'r Drydedd Reich yw '''lebensraum'''. Ei ystyr yw "gofod byw" (''lebens'' "byw" + ''raum'' "gofod, lle"), ac mae'n cyfleu'r...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:25, 8 Gorffennaf 2008

Gair Almaeneg a fu'n rhan o eirfa'r Drydedd Reich yw lebensraum. Ei ystyr yw "gofod byw" (lebens "byw" + raum "gofod, lle"), ac mae'n cyfleu'r syniad bod angen mwy o dir ar yr Almaen ac felly bu angen cymryd tir o wledydd yn Nwyrain Ewrop megis Gwlad Pwyl, Tsiecoslofacia a Rwsia gan ddefnyddio grym. Daeth yr alwad am lebensraum yn rhan ganolog o beiriant propaganda'r Natsïaid yn y cyfnod ar ddiwedd y 1930au a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd. Rhan o'r cyfiawnhad am gipio'r Sudetenland oddi ar Tsiecoslofacia oedd cael mwy o lebensraum i'r Almaenwyr, ynghyd ag uno poblogaeth Almaenig y dalaith â'r Almaen.

Gweler hefyd