Erging: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Goroesiad y Gymraeg: clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
→‎Goroesiad y Gymraeg: Manion, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
Llinell 15:
 
==Goroesiad y Gymraeg==
Arosodd yr iaith [[Gymraeg]] yn fyw yn yr ardal am ganrifoedd. Mae tystiolaeth arolwg ''[[Llyfr Domesday]]'' (1086) yn awgrymu cymdeithas gwbl Gymraeg, er i'r ardal fod ym meddiant y Saeson ers canrif neu ddwy. Ceir rhestr o brif drigolion ''Irchingeld'' (''Archenfield''=Erging) yn y flwyddyn [[1303]] mewn un o ysgroliau memoranda'r llys Seisnig sy'n awgrymu fod mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Gymry: allan o tua hanner cant o enwau mae tua 45 yn enwau Cymraeg, e.e. Gruffudd ap Dafydd o Dreredenog, Nest o Bengelli, a.y.y.b.<ref>Natalie Fryde (gol.), ''List of Welsh entries in the Memoranda Rolls 1282-1343'' (Caerdydd, 1974), tt. 22-23.</ref> Parhaodd yr iaith i fod yn iaith gymunedol mewn rhannau o Erging tan o gwmpas dechrau'r 18g a chofnodir siaradwyr Cymraeg lleol mor ddiweddar â chanol y 19eg ganrif19g.<ref>David Williams, ''A History of Modern Wales'' (Llundain, 1950; argraffiad newydd, 1982), tud. 11.</ref>
 
== Brenhinoedd Erging ==