Falls Road: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 8 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1394714 (translate me)
Manion canrifoedd yn bennaf! -, replaced: 20fed ganrif → 20g, 19eg ganrif → 19g using AWB
Llinell 4:
 
==Hanes==
Mae hanes y Falls yn dechrau yn gynnar yn y 19eg ganrif19g pan ddaeth yn gartref i bobl a symudodd i weithio yn ffatrioedd brethyn Belffast. Cynyddodd y boblogaeth yn gyflym yn ail hanner y ganrif honno a chodwyd tai elfennol i'r gweithwyr, heb dŵr na thoiledau, ar hyd y Falls ac yn yr ardal gyfagos. Roedd yn gymuned dlawd a difreintiedig iawn ond clos.
 
Ar ddiwedd y 1960au, dechreuodd nifer o Gatholigion Gogledd Iwerddon ymgyrchu dros gael [[hawliau sifil]]. Roedd hyn yn cynnwys galw am ddiwedd i'r gwahaniaethu ar sail crefydd yn achos tai a gwaith. Gwrthwynebwyd [[Mudiad Hawliau Sifil Gogledd Iwerddon]] gan rhai [[Unoliaethwyr]]. Ymosodwyd ar ardaloedd Catholig. Llosgwyd sawl stryd o gwmpas y Falls Road gan 'teyrngarwyr' yn Awst 1969 ac anfonodd [[llywodraeth y DU]] y [[Fyddin Brydeinig]] i strydoedd y Falls Road. Cawsont groeso i gychwyn gan drigolion y Falls, yn y gobaith o gael amddiffyn rhag yr ymosodiadau, ond newidiodd ei hagwedd wrth iddynt farnu fod y Fyddin yno yn eu herbyn nhw. Yn 1970 cafwyd yr hyn a alwyd y 'Falls Curfew'. Yn dilyn ymosodiad gan y [[Provisional IRA]], amgylchynwyd strydoedd y Falls, sy'n gartref i tua 10,000, gan 3000 o filwyr Prydeinig, a ollyngodd [[nwy CS]]. Dilynodd brwydr ffyrnig rhwng yr [[IRA Swyddogol]] a'r Fyddin Brydeinig. Lladdwyd pedwar o sifiliaid Catholig gan y Fyddin mewn penwythnos. Am 30 mlynedd ar ôl hynny bu gan y Fyddin Brydeinig bresenoldeb sylweddol yn y Falls Road, gyda gwersyll i gadw golwg ar y Falls ar loriau uchaf y Tŵr Divis a wasanaethid gan hofrenyddion: cafodd hyn ei symud yn Awst 2005.
 
==Pobl==
Mae pobl a gysylltir â'r Falls Road yn cynnwys [[James Connolly]], a arosodd yno am gyfnod ar ddechrau'r 20fed ganrif20g, ac [[Eamon de Valera]], a safodd fel ymgeisydd y Falls yn etholiad cyffredinol 1918. Magwyd [[Gerry Adams]], arweinydd [[Sinn Fein]], yn y Falls ac yno mae wedi treulio rhan helaeth ei oes.
 
==Llyfryddiaeth==