Feiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
→‎top: Manion canrifoedd yn bennaf! -, replaced: ddeunawfed ganrif → 18g, ail ganrif ar bymtheg → 17g, bymthegfed ganrif → 15g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:GambeUilderks.png|250px|bawd|feiol modern]]
Mae’r '''feiol''' yn rhan o deulu o offerynnau llinynnol a genir â bwa ac mae enghreifftiau cynnar yn deillio yn ôl i’r bymthegfed ganrif15g yn Sbaen. Er bod feiolau bas yn debyg mewn rhai agweddau i’r [[sielo]], mae’r feiolau yn wahanol mewn sawl ffordd i offerynnau yn nheulu’r [[feiolin]]. Mae gan y feiol gefn gwastad yn hytrach na chrwm, ysgwyddau gwargrwm, tyllau ''c'' yn lle rhai ''f'', a chwech neu saith tant yn hytrach na phedwar. Mae’r tiwnio yn wahanol hefyd (pedwerydd rhwng tannau a thrydydd yn y canol, yn hytrach na phumedau) a defnydd o gribellau at leoli nodau.
 
Mae nifer o feintiau i’r feiol, ac ym Mhrydain roedd yn arferiad i gael cist o ddau offeryn trebl, dau denor a dau fas yng nghyfnod yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg17g. Cenir pob aelod o’r teulu feiol yn null y sielo, megis yr enw Eidalaidd ''viola da gamba'' (neu feiol y goes). Mae’r offerynnau uchaf yn nheulu’r feiolin wedyn yn dwyn yr enw ''viola da braccio'' ( neu feiol y fraich). Dalier y bwa uwch ben yn hytrach nag o dan cledr y llaw. Yn hyn o beth defnyddir y bwa Almaenig yn yr un dull efo’r [[bas dwbl]] hyd heddiw.
 
Datblygwyd teulu’r feiolin i gymryd lle’r feiolau yn y ddeunawfed ganrif18g - sef y feiolin, [[fiola]], sielo a’r bas dwbl. Yn ddiddorol, goroesodd y [[crwth]] yng Nghymru fel offeryn gwerin ac mewn llysoedd yng nghyfnod y feiolau, a chan mai cerddoriaeth y [[Dadeni]] a’r [[Baróc]] sy’n perthyn i’r feiolau, nid oedd hyn at ddant pawb yn llysoedd y Cymry.
 
[[Categori:Offerynnau tannau]]