Gwalch Marthin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
Llinell 20:
Mae'n nythu mewn coed, ac yn hela adar, hyd at faint [[Ffesant]] ac anifeiliad hyd at faint [[Ysgyfarnog]] ambell dro. Mae'n medru symud yn gyflym drwy'r coed i ddal adar cyn iddynt wybod ei fod yno. Gellir adnabod y Gwalch Marth o'i gynffon hir ac adenydd gweddol fyr a llydan, sy'n ei alluogi i symud yn gyflym trwy'r coed. Mae'r ceiliog yn llwydlad ar ei gefn a llinellau llwyd ar y fron, tra mae'r iâr yn fwy llwyd tywyll gyda llai o liw glas ar y cefn. Gellir cymysgu rhwng y Gwalch Marth a'r [[Gwalch Glas]] ar brydiau, ond mae'r Gwalch Marth yn aderyn mwy o faint. Fel gyda'r Gwalch Glas, mae'r iâr yn fwy na'r ceiliog. Mae'r ceiliog rhwng 49 a 56 cm o hyd a 93–105 cm ar draws yr adenydd. Er fod y mesuriadau yma yn weddol debyg i iâr Gwalch Glas, mae'r Gwalch Marth yn edrych yn aderyn mwy. Mae'r iâr yn fwy o lawer, 58–64 cm o hyd a 108–127 cm ar draws yr adenydd, tua'r un faint a [[Bwncath]].
 
Credir fod y Gwalch Marth wedi diflannu o [[Cymru|Gymru]] erbyn y 19eg ganrif19g, ond fod adar wedi eu rhyddhau yn ddiweddarach gan hebogwyr a'r rheini wedi ail-sefydlu'r boblogaeth. Mae wedi manteisio ar y fforestydd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy'n cynnig digon o le i nythu, ac mae'n debyg fod tua can pâr yn nythu yng Nghymru bellach, a'r nifer yn cynyddu.
 
[[Categori:Adar ysglyfaethus]]