Diglosia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB
Llinell 1:
Mewn [[ieithyddiaeth]] mae '''diglosia''' yn derm ar gyfer y defnydd o ddwy iaith (neu ddau fersiwn o’r un iaith) o fewn yr un gymuned - ac mynd o'r naill i'r llall yn ôl y sefyllfa.
 
Mewn llawer o enghreifftiau o ddiglosia mae siaradwr yn newid o iaith lafar pob dydd i fath arall o iaith ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol.
 
==Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'==
Mae’r iaith lafar pob dydd yn cael ei dynodi fel yr iaith "L" (o’r gair Saesneg "low"). Fel arfer mae’r iaith "L" yn cael ei defnyddio yn y cartref ac ymhlith cymdogion, cyd-weithwyr etc.
 
Mae’r iaith "H" (o’r Saesneg "high") yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol fel addysg, ysgrifennu neu ddelio gydag awdurdodau a phobl mewn awdurdod.
 
Mae diglosia yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, fel arfer mae pobl [[Tsieina]] yn siarad eu tafodiaith leol fel yr iaith "L" gan newid i'r iaith "H" - [[Tsieinëeg Mandarin |Mandarin]] ar gyfer llythrennedd.
 
Yn yr un modd mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio [[Cymraeg llafar]] yn eu [[Tafodiaith| tafodiaith leol]] ymhlith ei gilydd gan newid i Gymraeg lenyddol neu Saesneg ar gyfer ysgrifennu a darllen.
 
== Gweler hefyd ==
[[Newid cod]] - ble mae'r un person yn defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs.
 
[[Cywair Iaith]] - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau.
 
== Ffynonellau ==
Llinell 21:
* https://en.wikipedia.org/wiki/Charles_A._Ferguson
* Ferguson, Charles A. 1959. Diglossia. Word 15: 325-340. http://www.mapageweb.umontreal.ca/tuitekj/cours/2611pdf/Ferguson-Diglossia.pdf
* LangFocus "What is Diglossia?" Ffilm fer ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=KL9ku7c7UTs
 
[[Categori:Cymraeg]]