Din Lligwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g using AWB
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif → 4g using AWB
Llinell 6:
Saif Din Lligwy ar fryn isel heb fod ymhell o'r môr. Tu mewn i fur amgylchynol mae sylfeini nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn grwn a rhai yn hirsgwar. Mae olion gweithio [[haearn]] yn rhai ohonynt. Credir fod yr adeiladau crwn yn dai a'r rhai hirsgwar yn weithdai. Er ei fod yn is nag yr oedd yn wreiddiol, mae'r mur allanol mewn cyflwr da.
 
Cofrestrwyd yr olion hyn gan [[Cadw]] a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN023.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Bu cloddio [[archaeoleg]]ol yma, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Roedd rhai o'r rhain yn awgrymu fod y lle yn cael ei ddefnyddio yn y bedwaredd ganrif4g O.C., ond roedd hefyd dystiolaeth o adeiladau ar y safle cyn y rhai a welir, efallai yn dyddio i [[Oes yr Haearn]]. Cafwyd hyd i far o arian, crochenwaith wedi ei fewnforio ac eitemau gwydr.
 
Y farn gyffredinol o ystyried y darganfyddiadau hyn a'r tai crwn oedd fod Din Llugwy yn perthyn i uchelwr neu bennaeth brodorol oedd wedi ei ddylanwadu i ryw raddau gan ddiwylliant Rhufain ond yn parhau i gadw at bensaerniaeth draddodiadol yn bennaf. Mae'r safle yng ngofal [[Cadw]]. Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol eraill gerllaw, [[Capel Llugwy]] o'r [[12g]] a siambr gladdu [[Llugwy (siambr gladdu)|Llugwy]] o'r cyfnod [[Neolithig]].