Dinas Efrog Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nev1 (sgwrs | cyfraniadau) fmt |
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB |
||
Llinell 23:
Dinas yn [[Talaith Efrog Newydd|Nhalaith Efrog Newydd]] yw '''Dinas Efrog Newydd''' ([[Saesneg]]: ''New York City''). Hi yw'r ddinas fwyaf poblog yn [[Unol Daleithiau America]] tra bod ardal fetropolitanaidd Efrog Newydd ymysg ardaloedd mwyaf poblog y byd. Dinas ryngwladol flaenllaw ydyw, gyda dylanwad sylweddol yn fyd-eang ar fasnach, economi, diwylliant, ffasiwn ac adloniant. Yma hefyd ceir pencadlys y [[Cenhedloedd Unedig]], ac felly mae'n ganolfan bwysig o safbwynt materion rhyngwladol.
Fe'i lleolir ar arfordir Gogledd-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau ar lannau [[Môr Iwerydd]]. Mae yno bum mwrdeisdref: Y [[Bronx]], [[Brooklyn]], [[Manhattan]], [[Queens]], ac [[Ynys Staten]]. Mae yno boblogaeth amcangyfrifol o 8,274,527 o bobl mewn ardal ychydig ynllai na 305 milltir sgwâr (790 km2).<ref>[http://home2.nyc.gov/html/dcp/pdf/lucds/nycprofile.pdf. NYC Profile" (PDF)]. Adran Gynllunio Dinas Efrog Newydd. Adalwyd 2008-05-22.</ref> Poblogaeth amcangyfrifol ardal fetropolitanaidd Efrog newydd yw 18,815,988 o bobl dros ardal o 6,720 milltir sgwâr (17,400 km2).<ref>[http://www.census.gov/popest/metro/files/2007/CBSA-EST2007-alldata.csv. Amcangyfrifau Blynyddol Poblogaeth Ardaloedd Metropolitanaidd: Ebrill 1, 2000 tan Gorffennaf 1, 2007]. U.S. Census Bureau. Adalwyd ar 2008-12-30.</ref>
Mae Efrog Newydd fwyaf adnabyddus ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau am ei threfnidaeth 24 awr, ac am ei dwysedd a'r amrywiaeth o bobl sy'n trigo yno. Yn 2005, roedd bron 170 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y ddinas a ganwyd 36% o'i phoblogaeth y tu allan i'r Unol Daleithiau. Weithiau cyfeirir at y ddinas fel "Y Ddinas sydd Byth yn Cysgu", tra bod ei ffugenwau eraill yn cynnwys "Gotham" a'r "Big Apple".
Llinell 57:
Mae tir y ddinas wedi newid yn sylweddol oherwydd ymyrraeth dynol, gyda rhannau helaeth o dir wedi'u had-ennill ar hyd y glannau ers cyfnod y trefidigaethau Iseldireg. Gwelwyd yr enghraifft amlycaf o ad-ennill tir ym Manhattan Isaf, gyda datblygiadau fel Dinas Battery Park yn ystod y [[1970au]] a'r [[1980au]]. Mae rhai o amrywiadau naturiol topograffeg wedi cael eu llyfnhau, yn enwedig ym Manhattan.
Amcangyfrifir fod arwynebedd y ddinas yn mesur 304.8 milltir sgwâr (789
=== Hinsawdd ===
Mae gan Ddinas Efrog Newydd [[hinsawdd is-drofannol llaith]]<ref>[http://koeppen-geiger.vu-wien.ac.at/ World Map of the Köppen-Geiger climate classification] University of Veterinary Medicine Vienna. Adalwyd 2009-01-31</ref> ac ar gyfartaledd ceir yno 234 o ddiwrnodau o heulwen yn flynyddol.<ref>http://www.weatherbase.com</ref>
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 79 – 84 °F (26 – 29 °C) a thymheredd isaf o 63 – 69 °F (17 – 21 °C). Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 90 °F (32 °C) am tua 16 -19 diwrnod bob haf.<ref>[http://www.weatherbase.com/weather/weatherall.php3?s=330527&refer=&units=us Swyddfa Hinsawdd Dinas Efrog Newydd] Adalwyd 2008-11-11</ref>
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda'r lleoliadau arfordirol ychydig yn gynhesach, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 38 – 43 °F (3 – 6 °C) a thymheredd isaf o 26 – 32 °F (−3 i 0 °C), ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r 10au i'r 20au °F (−12 i −6 °C) am rai dyddiau. Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 50au neu 60au °F (~10 i 15 °C) yn ystod y gaeaf.<ref>[http://nysc.eas.cornell.edu/climate_of_ny.html The Climate of New York] Swyddfa Hinsawdd Talaith Efrog Newydd. Adalwyd 2008-09-01</ref> Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y Gwanwyn a'r Hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.
{{Hinsawdd Efrog Newydd}}
=== Amgylchedd ===
Y defnydd o drafnidiaeth yn Ninas Efrog Newydd yw'r uchaf yn yr Unol Daleithiau ac mae'r defnydd o [[tanwydd|danwydd]] yno yn gyfatebol i'r cyfartaledd cenedlaethol yn ystod y [[1920au]].<ref>Jervey, Ben (2006). The Big Green Apple: Your Guide to Eco-Friendly Living in New York City. Globe Pequot Press. ISBN 0-7627-3835-9.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ddinas wedi bod yn canolbwyntio ar leihau ei heffaith ar yr amgylchedd. Arweiniodd llygredd y ddinas at lefelau uchel o [[asma]] a chyflyrrau [[System resbiradol|resbiradol]] eraill ymysg trigolion y ddinas.<ref>Coburn, Jason, Jeffrey Osleeb, Michael Porter (June 2006). "Urban Asthma and the Neighbourhood Environment in New York City". Health & Place 12(2): td. 167–179. doi:10.1016/j.healthplace.2004.11.002. PMID 16338632.
== Dinaswedd ==
Llinell 99:
== Chwaer ddinasoedd ==
{{Chwaerefrognewydd}}
== Cysylltiadau allanol ==
|