Tai crefydd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 8:
 
==Clasau==
 
[[Image:Clynnog.JPG|220px|thumb|right|Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, ar safle'r hen glas]]
 
Y sefydliad nodweddiadol yn y cyfnod cynnar oedd y [[Clas]].Defnyddir y gair 'mynachlog' i ddisgrifio'r clas, ond mewn gwirionedd roedd y sefyllfa'n amrywio o le i le ac o gyfnod i gyfnod. Yn sicr nid mynachlogydd yn yr ystyr gyffredin heddiw oedden nhw. Credir fod tri math o ffurfiau ar y bywyd cymunedol Cristnogol yn y Gymru gynnar. Roedd rhai [[meudwy]]on yn byw 'yn yr anialawch', mewn [[ogof]]âu er enghraifft, ar ben eu hunain neu gyda chwmni bach o ddisgyblion neu gyd-feudwyon. Yr oedd yna gymunedau mwy rheolaidd yn ogystal, gan amlaf yn trin y tir o gwmpas [[llan]] neu [[eglwys]] gynnar. Yn olaf roedd yna ganolfannau mawr fel [[Tyddewi]], [[Llanbadarn Fawr]], [[Clynnog Fawr]] a [[Llanilltud Fawr]] gyda chlerigwyr a mynachod. Yn aml iawn roedd y sefydliadau hyn yn ganolfannau dysg.
 
Roedd rheolau'r clasau Cymreig yn fwy llac o lawer nac yn y mynachlogydd diweddarach a sefydlwyd yng Nghymru gan y [[Sistersiaid]] ac eraill. Roedd [[abad]] y clas a chlerigwyr eraill yn rhydd i briodi a chael plant. Mewn canlyniad roedd yr abadaeth a swyddi pwysig eraill yn tueddi i fod yn etifeddol ac yn cael eu trosglwyddo o'r tad i'r mab, ffaith a syfrdanodd y mynachod [[Normaniaid|Normanaidd]] cyntaf. Roedd aelodau'r clas yn perchen tir fel unigolion yn ogystal. Cymunedau oeddynt felly, yn hytrach na mynachlogydd ffurfiol. Roeddynt yn mwynhau nawdd brenhinoedd Cymreig ac roedd yn ddigwyddiad cyffredin i aelodau o'r teuluoedd brenhinol ymneilltuo i glas hefyd.
 
 
==Tai Sistersaidd==