Gweledydd Brahan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 17eg ganrif → 17g using AWB
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Brahan Seer Memorial - geograph.org.uk - 486931.jpg|bawd|Carreg Coffa Gweledydd Brahan]]
Roedd '''Gweledydd Brahan''', (Gaeleg: ''Coinneach Odhar Fiosaiche (y gweledydd glas proffwydol'')), neu Kenneth Mackenzie, yn [[Dyn Hysbys|ddyn hysbys]] a oedd yn gallu rhagfynegi’r dyfodol ac yn byw yn [[yr Alban]] yn y 17g<ref>[http://www.historic-uk.com/HistoryUK/HistoryofScotland/The-Brahan-Seer-the-Scottish-Nostradamus/ Historic Scotland ''The Brahan Seer – the Scottish Nostradamus'']] adalwyd 12 Medi 2017</ref>. Yr awdur cyntaf i grybwyll hanes y dyn hysbys mewn llyfr oedd y Cymro [[Thomas Pennant]] yn ei lyfr ''A Tour in Scotland'' <ref>[http://www.undiscoveredscotland.co.uk/usbiography/b/brahanseer.html UNDISCOVERED SCOTLAND ''THE BRAHAN SEER'']</ref>
 
Mae rhai yn honni bod nifer o broffwydoliaethau Gweledydd Brahan yn ffrwyth dychymyg y llenor gwerin Alexander MacKenzie, y dyn a fu’n gyfrifol am eu casglu gan fod rhai o’r hanesion a rhagfynegodd wedi digwydd ymhell cyn iddynt gael eu cyhoeddi mewn llyfr. Mae eraill yn cwestiynu os oedd y gweledydd wedi bodoli o gwbl<ref>Thompson, Francis. (1976). ''The Supernatural Highlands''. R. Hale. tud. 72.</ref><ref>Wilson, Damon. (1999). ''The Mammoth Book of Nostradamus and Other Prophets''. Carroll & Graf. p. 211. ISBN|978-0786706280</ref>.
 
==Bywyd cynnar==
Llinell 13:
 
==Marwolaeth==
Aeth Iarll Seaforth ar ymweliad a [[Paris|Pharis]], ar gais y [[Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban|Brenin Siarl II]], bu i ffwrdd am lawer hirach nag oedd ei wraig, yr iarlles, yn disgwyl. Heb wybod os oedd ei gŵr yn fyw neu farw gofynnodd yr Iarlles i Kenneth os oedd yn gallu gweld be oedd wedi digwydd i’r iarll yn y ddinas bell. Atebodd y dyn hysbys ''Peidiwch ag ofni am eich arglwydd, mae'n ddiogel ac yn gadarn, yn dda o iechyd, yn fodlon ac yn hapus ''<ref>[http://www.scotsman.com/lifestyle/the-brahan-seer-scotland-s-nostradamus-1-465275 The Scotsman ''The Brahan Seer: Scotland's Nostradamus'']] adalwyd 10 Medi 2017</ref>. Roedd yr iarlles wedi drysu gyda’r ymateb a phwysodd ar y dyn hysbys i egluro paham nad oedd wedi dychwelyd. Gwrthododd dweud ar sawl achlysur gan ymateb ''Byddwch yn fodlon, heb holi rhagor - gadewch iddo fod yn ddigon i chi wybod bod eich arglwydd yn dda ac yn iach'', ond parhaodd yr iarlles i bwyso arno i ddweud y cyfan. O dan y fath pwysau ildiodd Kenneth gan egluro bod yr iarll wedi anghofio am ei wraig, ei blant a’i gartref gan ei fod yn mwynhau pleserau rhywiol gyda merched Paris. Ffromodd yr iarlles, nid oherwydd anniweirdeb ei gŵr, ond oherwydd ''enllib'' Kenneth. Penderfynodd lladd y negesydd, a’i orchymyn i'w llosgi fel [[gwrach]].<ref>[http://www.sacred-texts.com/neu/celt/pbs/pbs11.htm The Seers Death ''Prophecies of the Brahan Seer, by Alexander Mackenzie, (1899), at sacred-texts.com''] adalwyd 10 Medi 2017</ref>
 
==Cyfeiriadau==