Tai crefydd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 20:
 
Urdd o [[Mynach|fynachod]] a sefydlwyd yn yr [[11eg ganrif]] oedd y [[Sistersiaid]]. Eu henw poblogaidd yng [[Cymru|Nghymru]] oedd 'Y Brodyr Gwynion', oherwydd eu gwisgoedd gwyn, mewn cyferbyniaeth â'r [[Benedictiaid]] yn eu gwisgoedd tywyll.
 
Cawsant eu cyflwyno i Gymru gan y [[Normaniaid]]. Tai crefyddol estron oeddynt i ddechrau, ac arosai rhai ohonyn nhw felly, yn arbennig yn y De a'r [[Mers]]. Ond yn y gorllewin a'r gogledd daethant yn rhan o'r diwylliant Cymreig gan chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes. Codwyd nifer o [[Abaty|abatai]] ganddyn nhw dan nawdd tywysogion Cymreig ac arglwyddi lleol Cymreig a Normanaidd.
 
Ymysg yr enwocaf o dai'r Sistersiad roedd [[Abaty Tyndyrn]], [[Abaty Ystrad Fflur]], [[Abaty Glyn y Groes]] ac [[Abaty Aberconwy]]. Roedd hefyd ddau leiandy Sistersaidd yng Nghymru, [[Lleiandy Llanllugan]] a [[Lleiandy Llanllŷr]].