Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ieithyddiaeth"

Lleihawyd o 24 beit ,  2 flynedd yn ôl
→‎Amcanion sylfaenol ac ymraniadau pwysig: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif ar bymtheg → 19g using AWB
(Manion, replaced: ugeinfed ganrif → 20g (2) using AWB)
(→‎Amcanion sylfaenol ac ymraniadau pwysig: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif ar bymtheg → 19g using AWB)
Prif amcan ieithyddiaeth fodern yw disgrifio ac egluro natur iaith. Golyga hyn, uwchlaw popeth, ddod i ddealltwriaeth o'r hyn sydd yn gyffredin i bob iaith, yr hyn sydd yn amrywio rhwng ieithoedd, a'r modd y mae pobl yn dysgu ieithoedd (yn enwedig eu mamieithoedd). Gall pob bod dynol (heblaw am rai achosion patholegol) gyrraedd cymhwysedd ym mha bynnag iaith a siaredir (neu arwyddir) o'i hamgylch yn ystod plentyndod, heb angen cyfarwyddant uniongyrchol neu ymwybodol. Er y gall anifeiliaid eraill ddysgu systemau cyfathrebu eu hunain, ni lwyddant i ddysgu iaith ddynol yn yr un modd. Tybia ieithyddion felly mai potensial cynhenid yw'r gallu i ddysgu a defnyddio iaith, yn debyg i'r gallu i gerdded. Anghytunir fodd bynnag ynglŷn ag ehangder y potensial hwn a'i gyfyngiad i iaith yn unig. Cred rhai fod nifer helaeth o osodiadau haniaethol ieithyddol wedi eu hamgodio yn yr [[ymennydd]]; cred eraill mai cynnyrch gwybyddiaeth gyffredinol ddynol yw iaith. Cytunir serch hynny nad oes gwahaniaethau genetig cryf tu ôl i'r gwahaniaethau ieithyddol a fodolant: gall unrhyw blentyn iach ddysgu unrhyw iaith ddynol a'i hamgylchyna, pa bynnag gefndir teuluol neu ethnig sydd ganddo.<ref>Serch hynny, awgryma ymchwil diweddar y gall fiasau genetig gwan, dros nifer o genedlaethau, ddylanwadu ar esblygiad iaith, yn dilyn at ddosbarthiad anddamweiniol o rai nodweddion ieithyddol ar draws y byd. ([http://www.pnas.org/cgi/content/abstract/0610848104v1 Dediu, D. & Ladd, D.R. (2007). Linguistic tone is related to the population frequency of the adaptive haplogroups of two brain size genes, ASPM and Microcephalin, PNAS 104:10944-10949]; crynodeb ar gael [http://www.ling.ed.ac.uk/~s0340638/tonegenes/tonegenessummary.html yma])</ref>
 
Datblygodd ieithyddiaeth yr 20g i fod yn "[[strwythuriaeth]]ol" gan ei bod yn trin iaith fel system gymhleth na chaiff elfen ohoni ystyr neu hunaniaeth ond mewn perthynas ag elfennau eraill y system; dechreuodd y ddealltwriaeth hon o iaith efo gwaith [[Ferdinand de Saussure]] ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg19g a ddechrau'r ugeinfed. Dominyddwyd ieithyddiaeth ail hanner yr 20g gan theori [[Gramadeg cynhyrchiol]], sydd yn dilyn gwaith [[Noam Chomsky]], a etifeddodd lawer gan y traddodiad strwythuriaethol (er nad ydyw yn hollol strwythuriaethol yn ystyr llawn Saussure). Mae gramadeg cynhyrchiol yn honni y genir bodau dynol efo gwybodaeth gymhleth ieithyddol a rheola'n gyfyng y broses o ddysgu iaith, neu ieithoedd, ym mhlentyndod. Mae'r theori yn "fodiwlaethol" gan y honna fod y wybodaeth hon yn benodol ieithyddol — fe fodola felly fodiwl ieithyddol yn yr ymennydd a elwir yn "ddyfais caffaeliad iaith" — yn hytrach na fod yn gyffredin i wybyddiaeth ddynol. Parha gramadeg gynhyrchiol i ddominyddu'r ddisgyblaeth ddechrau'r unfed ganrif ar hugain; serch hynny, mae theorïau ieithyddol eraill, rhai ohonynt yn anfodiwlaethol, wedi ennill poblogaeth dros y degawdau diwethaf — mae [[ieithyddiaeth wybyddiaethol]] yn enghraifft amlwg a chymharol lwyddiannus.
 
== Cyfeiriadur ==
380,692

golygiad