Khushal Khan Khattak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 17eg ganrif → 17g using AWB
Llinell 1:
Bardd yn yr iaith [[Pashto]], rhyfelwr [[Pashtun]] a phennaeth llwyth y [[Khattack]] oedd '''Khushal Khan Khattak''' ([[1613]] – [[25 Chwefror]] [[1689]]) ([[Pashto]]: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron [[Mughal]] yn yr 17eg ganrif17g; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun ([[Pathan]]) a'r [[Affganiaid]] i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr [[Hindu Kush]] yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn [[Khyber Pakhtunkhwa]], [[Pacistan]].
 
Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr [[Affridiaid]], un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.<ref>James W. Spain, ''The Way of the Pathans'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1962, arg. newydd 1972), pennod 'The Warrior Bard'.</ref>