Legio II Augusta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif → 4g using AWB
Llinell 1:
Roedd '''Legio II ''Augusta''''', yn [[Lleng Rufeinig]] a ffurfiwyd gan Gaius Vibius Pansa Caetronianus yn [[43 CC]], Bu'r lleng yng [[Caerllion|Nghaerllion]] (''Isca Silurum'') am gyfnod hir, efallai tan ddechrau'r bedwaredd ganrif4g. Ei symbolau oedd y [[Capricornus]], [[Pegasus]] a [[Mawrth (duw)|Mawrth]].
 
Ffurfiwyd y lleng gan [[Augustus|Octavianus]] (Augustus yn nes ymlaen) a'r [[Conswl Rhufeinig|conswl]] Gaius Vibius Pansa Caetronianus yn [[43 CC]], i ymladd yn erbyn [[Marcus Antonius]]. Ymladdodd yr II ''Augusta'' ym [[Brwydr Philippi|Mrwydr Philippi]] a brwydr [[Perugia]]. Ar ddechrau teyrnasiad Augustus yn [[25 CC]], symudwyd y lleng i [[Sbaen]] i ymladd yn y Rhyfeloedd Cantabraidd, a bu'n gwersylla yn nhalaith [[Hispania Tarraconensis]]. Pan ddinistriwyd llengoedd XVII, XVIII a XIX ym [[Brwydr y Teutoburgerwald|Mrwydr y Teutoburgerwald]] yn [[9]] O.C., symudwyd yr II ''Augusta'' i [[Germania]], efallai i ardal [[Mainz]]. Wedi [[17]], roedd yn Argentorate ([[Strasbourg]] heddiw).