Llanelian-yn-Rhos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ffynnon Eilian: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
→‎Ffynnon Eilian: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 20fed ganrif → 20g (2) using AWB
Llinell 6:
{{prif|Ffynnon Eilian}}
[[Delwedd:Llanelian yn Rhos church - geograph.org.uk - 154993.jpg|bawd|Eglwys Llaneilian-yn-Rhos: mynedfa]]
Bu Llaneilian yn enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian, sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Fel y plwyf ei hun, fe'i cysylltir â [[Sant]] [[Eilian]], un o gyfoeswyr Sant [[Seiriol]], yn ôl traddodiad. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd hyd at ddechrau'r 20fed ganrif20g fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan [[swyn]] i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon.
 
Gŵr o'r enw John Edwards oedd ceidwad olaf y ffynnon. Roedd yn ennill bywoliaeth dda o'r swydd am ei fod yn gofyn tâl am ''godi'''r fellith hefyd ac felly'n elwa dwywaith. Ar ôl i'r Eglwys dderbyn cwynion, llenwyd y ffynnon hynafol gan yr awdurdodau yn 1829 a chafodd Edwards ddirwy o 15 swllt. Ond nid ataliwyd y pererinion a ddeuai yno hyd at flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif20g i gael bendith (neu felltith).<ref>T. D. Breverton, ''The Book of Welsh Saints'' (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tt. 223-234.</ref><ref>Samuel Lewis, ''Topographical Dictionaray of Wales'' (Llundain, 1843), cyfrol II.</ref>
 
== Enwogion ==