Llannerch Aeron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes ystad Llannerch Aeron: clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
→‎Hanes ystad Llannerch Aeron: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 20fed ganrif → 20g (2) using AWB
Llinell 10:
Mae'n debyg bod darn o'r plas hwnnw wedi goroesi ym muriau'r bragdy a muriau'r parlwr bach. Cynyddodd maint yr ystad yn 1689 trwy briodas a'r teulu Lewis o Blas Ciliau Aeron. Erbyn diwedd y 18g roedd yr ystad yn ffynnu digon i'r Cyrnol William Lewis allu codi tŷ newydd, a gynlluniwyd gan John Nash ac a adeiladwyd yn 1794-95. Adeiladwyd y tai ffarm tua'r un pryd â'r tŷ, o bosib yn ôl cynllun gan asiant i John Nash.<ref>M. L. Evans, ''Llanerchaeron: A Tale of 10 Generations 1634-1989'', t33 (M. L. Evans) 1996</ref> Ychwanegwyd ystafell biliard wrth ymyl y tŷ yn 1843, yna rhod ddŵr yn 1852 a thŷ i'r beili yn 1863. Newidiwyd fawr ddim ar y tŷ ei hunan. Gostyngwyd rhai o'r ffenestri'r llofft, ac ychwanegwyd ffenestr grom i'r parlwr bach yn 1854.
 
Ehangodd yr ystad eto trwy briodas a'r teulu Lewes o Lysnewydd. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif20g roedd rhyw 4,400 erw yn perthyn i'r ystad. Bu gweddw yr Uwchgapten John Lewis, sef mab Cyrnol William Lewis, yn rheoli'r ystad am 62 mlynedd, o 1855 pan fu farw ei gŵr hyd at ei marwolaeth yn 1917. Roedd Mary Ashby Lewis yn uchel iawn ei pharch, gan drin gweithwyr yr ystad a'i thenantiaid yn dda. Ni chafodd neb o'r tenantiaid eu bwrw allan wedi etholiad 1868.<ref>M. L. Evans, ''Llanerchaeron: A Tale of 10 Generations 1634-1989'', t47 (M. L. Evans) 1996</ref>
 
Yn ystod y cyfnod pan oedd yr ystad ym meddiant Mary Ashby Lewis, yr oedd dyledion yr ystad wedi bod yn cronni, gan gynnwys £7,874 o'r morgais a gymrodd yr Uwchgapten John Lewis i dalu dyledion ei dad, a'r £28,992 o ddyled yn deillio o fenthyciadau'r darpar-etifedd John Edward Lewes Boultbee, gor-ŵyr y Cyrnol William Lewis, a fu byw'n afradlon, ac a fu farw yn 1885.<ref>M. L. Evans, ''Llanerchaeron: A Tale of 10 Generations 1634-1989'', t64 (M. L. Evans) 1996</ref> Pan etifeddodd gor-nai Mary Ashby Lewis, sef Capten Thomas Powell Lewes, yr ystad yn 1919, rhaid oedd gwerthu rhan helaeth o'r ystad er mwyn talu'r dyledion hyn, a threthi a chymunroddion yr ewyllys. Mae'n debyg mai hyn sydd i gyfrif na wnaethpwyd fawr o newidiadau i foderneiddio'r tŷ yn ystod yr 20fed ganrif20g. Gadawodd mab Capten Lewes, John Powell Ponsonby Lewes y rhan fwyaf o'r ystad, rhyw 1600 o erwau, i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan fu farw yn 1989.
 
<gallery>