Llyfr Coch Asaph: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 1:
[[Llawysgrif Gymreig]] ddiflanedig yw '''Llyfr Coch Asaph'''. Er i'r llyfr ei hun ddiflannu mae ysgolheigion wedi llwyddo i adfer canran sylweddol o'r testun o'r copïau a wnaed gan yr hynafiaethydd [[Robert Vaughan]] (1592-1667) ac eraill. Roedd yn cynnwys nifer o ddogfennau cyfreithiol ac eglwysig yn ymwneud ag [[Esgobaeth Llanelwy]], yn [[Gymraeg]] a [[Lladin]].
Ni wyddys pryd yn union y lluniwyd y dogfennau gwreiddiol a'u casglu ynghyd mewn llyfr, ond mae'n debygol mai rhywbryd yn yr [[Oesoedd Canol Diweddar]] y digwyddodd hynny, efallai dros gyfnod o amser. Diflannodd y llawysgrif wreiddiol yn ystod [[Rhyfel Cartref Lloegr]]. Gwnaeth Robert Vaughan a chopïwyr eraill bedwar copi anghyflawn o'r deunydd yn hanner cyntaf yr
Dogfennau cyfreithiol yn ymwneud â hanes gweinyddu Esgobaeth Llanelwy oedd cynnwys y llyfr. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu iddynt gael eu llunio yn y 13g a'r 14g. Maent yn ffynhonnell bwysig i haneswyr ac yn dyst i weithgarwch ''[[sgriptoriwm]]'' [[Llanelwy]] yn yr Oesoedd Canol.
|