Llys y Pab: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 16eg ganrif → 16g, 11eg ganrif → 11g (2), 6ed ganrif → 6g using AWB
Llinell 2:
 
== Hanes ==
O'r ganrif gyntaf hyd at yr 11eg ganrif11g, clerigwyr [[Rhufain]] yn unig oedd aelodau'r ''presbyterium apostolicae sedis''. Ymgynghorodd y Pab â'r offeiriaid a'r diaconiaid yng nghyfarfodydd y synod. O'r 6ed ganrif6g ymlaen, cynigodd aelodaeth y synod i offeiriad y prif eglwysi a'r saith diacon yn Rhufain, a'r [[cardinal (Eglwys Gatholig)|cardinaliaid]] cyntaf. Yn ystod yr 11eg ganrif11g datblygodd y synod yn gonsistori, a'r cardinaliaid yn unig oedd ei aelodau. Gosododd y [[Pab Alecsander III]] reolau'r cyfarfodydd consistorïaidd ym 1170, ac ymhelaethodd pabau eraill, megis [[Pab Innocentius III]], ar rymoedd y consistori.<ref>{{eicon en}} "[http://www.encyclopedia.com/religion/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/curia-roman Roman Curia]" yn y ''New Catholic Encyclopedia'' (Gale, 2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 19 Ionawr 2017.</ref>
 
Datblygodd y Llys ei ffurf fodern ar ddiwedd yr 16eg ganrif16g, pan osododd y [[Pab Sixtus V]] amodau a rheolau'r Llys yn ei [[bwl|fwl]] ''Immensa'' (1588). Cafodd y Llys ei ad-drefnu gan y [[Pab Pïws X]] yn ôl Côd y Gyfraith Ganonaidd 1917. Cychwynnodd y [[Pab Pawl VI]] ar ddiwygio'r Llys yn y 1960au i geisio moderneiddio'i ddulliau gweithredu. Rhoddwyd Ail Gôd y Gyfraith Ganonaidd ar waith ym 1983.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/Roman-Curia |teitl=Roman Curia |dyddiadcyrchiad=19 Ionawr 2017 }}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==