Louvre: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
Llinell 1:
Amgueddfa yn ninas [[Paris]], [[Ffrainc]] yw '''Amgueddfa'r Louvre''' ([[Ffrangeg]]: ''Musée du Louvre''). Dyma [[amgueddfa]] genedlaethol Ffrainc. Mae'n un o'r amgueddfeydd mwyaf a phwysicaf yn y byd sy'n gartref i sawl gwaith celf enwog o gyfnod yr [[Henfyd]] ymlaen.
 
Dechreuodd y Louvre fel palas brenhinol. Cynlluniwyd y colonâd marweddog gan [[Claude Perrault]] (1613 - 1688), brawd [[Charles Perrault]], awdur y casgliad chwedlau gwerin enwog ''[[Contes de ma mère l’Oye]]''. Agorwyd yr amgueddfa yn [[1793]] ar ôl gwrthdroi brenhiniaeth Ffrainc gan y [[Chwyldro Ffrengig]]. Cnewyllyn yr amgueddfa oedd casgliad celf personol brenhinoedd Ffrainc. Ychwanegwyd at y casgliad gan [[Napoleon Bonaparte]] a chan lywodraeth Ffrainc ac unigolion yn y 19eg ganrif19g, yn cynnwys casgliad arbennig o waith yr [[Argraffiadwyr]].
 
Mae gan yr amgueddfa arwynebedd o 60 000 m², a chafodd 8,300,000 o ymwelwyr yn [[2007]]. Ceir rhai o weithiau celf enwocaf y byd yma, yn arbennig y ''[[Mona Lisa]]'', ''[[Y Forwyn a Phlentyn gyda'r Santes Ann]]'', ''[[Venus de Milo]]'', ''[[Deddfau Hammurabi]]'' a ''[[Buddugoliaeth Adeiniog Samothrace]]''. Yma hefyd mae'r dabled garreg sy'n cynnwys [[Cyfraith Hammurabi]]. Mae gwaith yr Argraffiadwyr yn cael ei gadw ar wahân yn y Jeu de Palmes yng Ngerddi'r [[Tuileries]].