Marchog crwydr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: unfed ganrif ar bymtheg → 16g, bedwaredd ganrif ar ddeg → 14g using AWB
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif ar bymtheg → 19g using AWB
Llinell 4:
Marchogion [[Cylch Arthur]], gan gynnwys [[Lawnslot]] a [[Gwalchmai ap Gwyar]], yw'r marchogion crwydr gwreiddiol. Yr arch-chwedl oedd yr Ymchwil am [[y Greal Santaidd]], yn ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan [[Chrétien de Troyes]] (1180au). Gwelir defnydd cyntaf y term ''knygt erraunt'' yn y gerdd ''[[Sir Gawain and the Green Knight]]'' yn y 14g.<ref>[http://www.randomhouse.com/wotd/index.pperl?date=20010328 The Maven's Word of the Day: Knight Errant]</ref> Cafodd yr uchelwr [[Ffranciaid|Ffrancaidd]] [[Rolant]] ei bortreadu fel marchog crwydr mewn llenyddiaeth Ffrengig ac Eidalaidd. Roedd straeon y marchogion crwydr yn boblogaidd mewn [[llys (brenhinol)|llysoedd]] Ewrop hyd [[yr Oesoedd Canol Diweddar]], yn bennaf yn yr ieithoedd [[Ffrangeg Canol]], [[Saesneg Canol]] ac [[Almaeneg Canol]].
 
Yn yr 16g daeth y llenyddiaeth hon yn boblogaidd iawn ym [[Penrhyn Iberia|Mhenrhyn Iberia]], er enghraifft ''[[Amadis de Gaula]]''. Wrth i genre'r marchog crwydr droi'n hen ffasiwn ar ddiwedd y ganrif, cafodd ei dychanu gan y [[nofel bicarésg]]. Yn ''[[Don Quixote]]'' (1605), mae'r prif gymeriad yn ceisio byw fel marchog crwydr ar ôl darllen straeon am eu hanturiaethau ac yn troi'n [[parodi|barodi]] ohonynt. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg19g daeth y cymeriad i'r golwg eto mewn [[nofel hanesyddol|nofelau hanesyddol]] y cyfnod [[Rhamantiaeth|Rhamantaidd]]. Heddiw, mae nifer o gymeriadau ffuglen yn seiliedig ar batrymlun y marchog crwydr, gan gynnwys [[nofel dditectif|ditectifs]] megis [[Sherlock Holmes]] a [[Philip Marlowe]]<ref>http://rabida.uhu.es/dspace/bitstream/handle/10272/1743/b11980977.pdf?sequence=1</ref> ac [[archarwr|archarwyr]] megis [[Batman]].
 
== Gweler hefyd ==