Hwiangerdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cân neu gerdd i'w chanu i blentyn neu i gael ei hadrodd gan blant yw '''hwiangerdd'''. Mae deunydd rhai hwiangerddi yn hen iawn ac yn aml maent yn adleisio ffordd o fyw sydd wed...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:43, 12 Gorffennaf 2008

Cân neu gerdd i'w chanu i blentyn neu i gael ei hadrodd gan blant yw hwiangerdd. Mae deunydd rhai hwiangerddi yn hen iawn ac yn aml maent yn adleisio ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. I raddau maent yn perthyn i fyd llên gwerin hefyd. Mae synnwyr rhyfeddod sy'n gallu ymylu ar y swreal yn nodweddiadol hefyd.

Gan fod yr hwiangerdd yn perthyn i'r traddodiad llafar tan yn gymharol ddiweddar mewn hanes, ychydig iawn o hwiangerddi cynnar sydd wedi eu cadw. Ond ceir enghraifft ddiddorol o hwiangerdd gynnar yn y Gymraeg, sef 'Pais Dinogad', yn y llawysgrif ganoloesol Llyfr Aneirin. Mam sy'n canu 'Pais Dinogad' ('Crys [neu siaced] Dinogad') i'w phlentyn. Math o gerdd hela ydyw ac mae'r 17 llinell yn digwydd yng nghanol y gerdd arwrol enwog 'Y Gododdin'. Ni ellir ei dyddio yn fanwl ond gellid tybio iddi gael ei chyfansoddi rhywbryd yn yr Oesoedd Canol Cynnar, efallai mor gynnar a'r 7fed ganrif.

Ceir sawl hwiangerdd mwy diweddar yn y Gymraeg, ffrwyth trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth. Un o'r enwocaf yw 'Gee, geffyl bach':

Gee, geffyl bach, i'n cario ni'n dau
Dros y mynydd i hela cnau ;
Dŵr yn yr afon, a'r cerrig yn slic—
Cwympso'n ni'n dau, wel, dyna'i chi dric!

Llyfryddiaeth

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.