Hwiangerdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cân neu gerdd i'w chanu i blentyn neu i gael ei hadrodd gan blant yw '''hwiangerdd'''. Mae deunydd rhai hwiangerddi yn hen iawn ac yn aml maent yn adleisio ffordd o fyw sydd wed...
 
ehangu
Llinell 1:
[[Cân]] neu gerdd i'w chanu i blentyn neu i gael ei hadrodd gan blant yw '''hwiangerdd'''. Mae deunydd rhai hwiangerddi yn hen iawn ac yn aml maent yn adleisio ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. I raddau maent yn perthyn i fyd [[llên gwerin]] hefyd. Mae synnwyr rhyfeddod sy'n gallu ymylu ar y [[swrealaeth|swreal]] yn nodweddiadol hefyd.
 
==Hwiangerddi Cymraeg==
Gan fod yr hwiangerdd yn perthyn i'r [[traddodiad llafar]] tan yn gymharol ddiweddar mewn hanes, ychydig iawn o hwiangerddi cynnar sydd wedi eu cadw. Ond ceir enghraifft ddiddorol o hwiangerdd gynnar yn y [[Gymraeg]], sef 'Pais Dinogad', yn y llawysgrif ganoloesol ''[[Llyfr Aneirin]]''. Mam sy'n canu 'Pais Dinogad' ('Crys [neu siaced] Dinogad') i'w phlentyn. Math o gerdd hela ydyw ac mae'r 17 llinell yn digwydd yng nghanol y gerdd [[arwr]]ol enwog '[[Y Gododdin]]'. Ni ellir ei dyddio yn fanwl ond gellid tybio iddi gael ei chyfansoddi rhywbryd yn yr [[Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]], efallai mor gynnar a'r [[7fed ganrif]].
 
Llinell 10 ⟶ 11:
:Cwympso'n ni'n dau, wel, dyna'i chi dric!
 
===Llyfryddiaeth=Gwerth addysgol==
Camgymeriad fyddai disystyru a dilorni hwiangerddi fel [[rhigwm|rhigymau]] llawn ffwlbri heb werth go iawn. Fel y noda [[Eluned Bebb]] yn ei ragymadrodd i'w chasgliad arloesol ''Hwiangerddi'r Wlad'',
 
<blockquote>Tybiaf fod gwerth triphlyg, ''o leiaf'', i'n hwiangerddi ni'r Cymry. Yn swn eu geiriau, ac o'u clywed dro ar ôl tro, nid hir y bydd y plentyn cyn siarad ac ynganu'n groyw a chlir. Yn ail, o sicrhau'r hwiangerddi ar yr aelwyd gartref, rhoddir i'r plant gefndir i'w hiaith a bery ar hyd eu hoes, fel nas dadwreiddir ar chwarae bach. Ac yn olaf, dyma'r ffordd gyntaf oll i ddenu'r meddwl ifanc at lenyddiaeth a llên gwerin.<ref>''Hwiangerddi'r Wlad'', rhagymadrodd.</ref></blockquote>
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
==Llyfryddiaeth==
* [[Thomas Parry]] (gol.), ''[[Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg]]'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen). Ceir testun hwylus o 'Pais Dinogad' ar dud. 7.
* [[Eluned Bebb]] (gol.), ''Hwiangerddi'r Wlad'' ([[Llyfrau'r Dryw]], 1941). Detholiad o hwiangerddi Cymraeg.
 
==Gweler hefyd==
* [[Hen Benillion]]
* [[Llenyddiaeth plant]]