Yn ogystal â phentref Pen-y-bont-fawr, mae'r gymuned yn cynnwys pentref [[Hirnant]], prif bentref yr ardal yn wreiddiol. Roedd y boblogaeth yn [[2011]] yn 440.
Codwyd Eglwys Sant Tomos ar gyrion y pentref yng nghanol y 19eg ganrif19g, ac mae'r pentref cyfan yn dyddio o'r un ganrif. Tyfodd o ganlyniad i groesffordd bwysig: y lôn o Orllewin Cymru i [[Croesoswallt|Groesoswallt]] yn nadreddu o'r gorllewin i'r dwyrain, ac yn ei groesodi: y ffordd o'r [[Bala]] i'r [[Amwythig]]. Fodd bynnag, ceir nifer o ffermydd hynafol iawn yn yr ardal, gan gynnwys: [[Peniarth-uchaf]] gyda'i nenfforch o'r 15g neu ffermdy Penybont ei hun, sy'n dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif17g. Codwyd yr eglwys leol yn 1855.